Rwy'n hoffi chware gemau GTA ond i fod yn hollol onest pe bai opsiwn Cymraeg ar y gemau rwy'n amheus pe bawn yn ei ddefnyddio. Rwy'n cofio gwylio'r ffilm cowbois Shane wedi ei dybio i'r Gymraeg yn y 70au, roedd o'n embaras i'r iaith ac yn wastraff o adnoddau gallesid wedi ei wario ar gynyrch Cymraeg gwreiddiol. Dydy'r syniad o glywed dihyrod Liberty City neu San Andreas yn siarad Cymraeg ddim yn apelio lawer i mi. Wrth gwrs mae 'na gemau lle byddai cael opsiwn Cymraeg yn dda - os oes gêm yn cael ei selio ar gwpan Rygbi'r Byd blwyddyn nesaf byddai cael opsiwn Cymraeg yn gwbl naturiol i'r rhai ohonom sydd wedi arfer ar wylio rygbi ar S4C.
Y delfryd, pe bai modd gwneud, byddid dilyn trywydd cartwnau gwreiddiol S4C megis Siwperted a Sam Tân - creu cynyrch gemau Cymraeg (ac ieithoedd bychan eraill) gwreiddiol gellid ei werthu i weddill y byd. Er engraifft mae sôn bod cyfres Y Gwyll wedi gwerthu'n dda yn rhyngwladol be am greu Gêm y Gwyll (tebyg i L.A. Noir) yn y Gymraeg, y Saesneg ac yn ieithoedd y gwledydd sydd wedi prynu'r rhaglen?