[Wedi symud yr edefyn o Gwleidyddiaeth-->Amgylchedd a Chynaladwyaeth i fan hyn, am ei fod yn fwy addas yma - gweinydd]
Un o fy'n hoff bethau ydi dringo mynydd, er dwi ond di neud cwpl y flwyddyn yma (Pen-y Fan a Moel Siabod). Dwi wedi dringo llawer o fynyddoedd Cymru, er ma rhai dwi dal heb gwneud (fel y Carneddau, Glyder Fawr, Rhiniogau). Mi o ni arfer cael fy nhalu i gerdded llawer o fynyddoedd eryri! Ma'r teimlad o fod i fwrdd o bopeth, ac bod yn rhywle mor wyllt yn un arbennig. Fy hoff mynydd yw Cader Idris, un dwi wedi dringo sawl gwaith, a lle gwech chi olygfa anhygoel o Gymru ar ddiwrnod clir.
Pwy arall sy'n hoff o gerdded fynyddoedd? Be da chi di cerdded, be di eich hoff fynydd?