Mynydda

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mynydda

Postiogan Geraint » Iau 13 Tach 2003 12:54 pm

[Wedi symud yr edefyn o Gwleidyddiaeth-->Amgylchedd a Chynaladwyaeth i fan hyn, am ei fod yn fwy addas yma - gweinydd]

Un o fy'n hoff bethau ydi dringo mynydd, er dwi ond di neud cwpl y flwyddyn yma (Pen-y Fan a Moel Siabod). Dwi wedi dringo llawer o fynyddoedd Cymru, er ma rhai dwi dal heb gwneud (fel y Carneddau, Glyder Fawr, Rhiniogau). Mi o ni arfer cael fy nhalu i gerdded llawer o fynyddoedd eryri! Ma'r teimlad o fod i fwrdd o bopeth, ac bod yn rhywle mor wyllt yn un arbennig. Fy hoff mynydd yw Cader Idris, un dwi wedi dringo sawl gwaith, a lle gwech chi olygfa anhygoel o Gymru ar ddiwrnod clir.

Pwy arall sy'n hoff o gerdded fynyddoedd? Be da chi di cerdded, be di eich hoff fynydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan eusebio » Iau 13 Tach 2003 2:01 pm

Mynydd Cnicht yw fy hoff fynydd - Matterhorn Cymru
:)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Geraint » Iau 13 Tach 2003 3:17 pm

Cnicht- un arall dwi heb ddringo. Dwi wedi gneud rhai eraill or moelwynau, Allt Fawr a Foel Druman, sydd uwchben Blaneau a Cwmorthin, ar dop Crimea Pass. Bendigedig.

Enw gore ar fynydd yng Nghymru: Pen Llithrig-y-Wrach
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 13 Tach 2003 3:47 pm

Cofio dringo'r Aran Fawddwy pan o'n i ar ymweliad a Glanllyn. Ysblennydd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Mynydda

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 13 Tach 2003 6:24 pm

Geraint a ddywedodd:Fy hoff mynydd yw Cader Idris, un dwi wedi dringo sawl gwaith, a lle gwech chi olygfa anhygoel o Gymru ar ddiwrnod clir.

Yn wir, er dwi rioed di dringo un mynydd yn Eryri. Do'n i byth yn mynd fyny i'r cyrion yno pan o'n iau a dwi'n bellach ffwr fyth rwan.

Esh i fyny Pen Y Fan a dros rai o'r lleill sydd wrth ymyl, yn yr ha, dro bach neis ond doedd o ddim yn sbectaciwlar iawn.

Foxes Path Cader Idris bob tro!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Norman » Iau 13 Tach 2003 9:30 pm

Tryfan di'r gore genai. Er mai'n deimlad da fod ar gopa'r Wyddfa.

Tryfan, achos 'castell y gwynt', y cantilifar, a adda&edda ar y top - ychydig mwy diddorol na'r copa gwyntog arferol
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan Mewnwr » Gwe 14 Tach 2003 8:20 am

Dwi'n mwynhau cerdded mynyddoedd hefyd. Ond heb gael amser yn y blynyddoedd diwethaf yma gwaetha'r modd. Yr unig un es i fyny leni oedd yr Wyddfa! (y ffefryn!) (trio mynd fyny o bob blwyddyn ond deoddwn heb fod ers tua 3 blynedd)

Mynyddoedd eraill dwi wedi'i cerdded yw:
Crib Goch
Lliwedd
Tryfan
Cnicht
Glyder
Y 2 Foelwyn
Mynydd Mawr / Eliffant
Cader Idris
Moel Siabod
Cwm Idwal

Mae'n siwr fod na fwy - ond rhain dwi'n gofio ar y funud!
Mewnwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Iau 18 Medi 2003 3:04 pm

Postiogan nicdafis » Gwe 14 Tach 2003 8:56 am

Dw i erioed wedi dringo'r Wyddfa, rhag gywilydd. Ond mae Tryfan a Chrib Coch yn wych.

Dw i ddim yn gerddwr o fri, rhaid dweud. Dylwn i fynd mas mwy.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan brenin alltud » Gwe 14 Tach 2003 11:10 am

Heb ddringo hanner digon o fynyddoedd eryri a finne'n byw'n eu canol... gwarth.

Wedi joio: Y Cnicht, Cader Idris, Yr Eifl (naws hudol, mytholegol ynghanol y niwl yn yfed cwrw cymreig... mmm),

ond wedi casau: Yr Wyddfa (degau o saeson wrth i ni ymlusgo tua'r copa o lanberis yn dweud 'it's allright, you're nearly there now, loves' a finne heb ddigon o anadl i ddeud rhywbeth fel 'twll dy din di pharo' ... a dim golygfa o'r top... ond neis cael cymry yn y caffi)

Hoff lecyn: ar ben Garreg Hylldrem, Llanfrothen - bryncyn o fynydd lle y galla i eiste'n myfyrio â'r mor yn y pellter a'r Cnicht y tu nol :D :D :D
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Chwadan » Gwe 14 Tach 2003 11:23 am

Foxes Path - sgrialu lawr ar eich tin :D. Ma Cader Idris yn wych!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai