YR UNDEBAU LAFUR

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw gwerth undebau?

Hir oes iddynt - chwifiwch yr faner goch am byth
9
60%
Mae lle iddynt - ond rhy eithafol yw sawl ohonynt
5
33%
Saethu'r arweinwyr a charcharu'r gweddill - Blydi Comis
1
7%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 15

Postiogan Chris Castle » Gwe 14 Tach 2003 10:00 am

1. Well gen i dalu yswiriant cyfreithiol na talu undeb


Costus iawn i'r un fath o gymorth mae undeb yn rhoi -
cynrychioldeb pob tro mae problem 'da ti,
wrth eich ochr hyd yn oed os nad yw'n edrych yn dda arnoch,
ayyb

2. Democratiaeth mewn gweithle? Gwaith sydd mewn gweithle. Os ti eisiau gwneud penderfyniadau yna gweithia dy hun fyny


ffasgaeth/comiwnyddiaeth

3. Os ti wirioneddol yn cael cachu anheg gan dy fos byth a beunydd yna hel dy CV allan a ffeindia rhywle gwell i weithio, dyw nhw ddim yn haeddu ti.


Rhedeg i ffwrdd - cachu mas
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan RET79 » Gwe 14 Tach 2003 5:06 pm

Chris, mae dy ymatebion yn lol llwyr. Os ti'n mynd i drwbwl o hyd yn dy waith ac yn galw'r undeb mewn byth a beunydd yna mae gen ti broblemau. Ti'n well off yn gadael a mynd i le lle ti'n cael llai o broblemau, hynny yw, os fuasai cyflogwyr gwerth eu halen yn meddwl digon o beth sgen ti i'w gynnig i roi cyfle da i ti.

Dwi ddim yn meddwl fod o'n beth da i dy yrfa os ti'n creu uffar o stwr ym mhob man lle ti'n gweithio, mae storiau yn mynd rownd. Dwi wedi sylweddoli os dwi'n gwneud stwr am y pethau dwi'n gasau yn lle dwi'n gweithio yna wneith o ddim fy helpu i lot, mae rhy anodd newid pethau, felly dyna pam dwi'n chwilio am swydd yn rhwyle arall sydd yn cydfynd a fi fwy.

Os yw rheolwyr yn gas ac yn trin eu staff fel cachu, yn eu talu'n wael etc. yna y tebygrwydd yw fydd staff byth yn aros yna'n hir a bydd nhw o hyd yn gorfod llenwi bylchau sydd ddim bob amser yn beth da i'r rheolwyr.

Os nad yw pobl yn gallu sefyll fyny dros eu hunain mewn lle gwaith yna bai nhw yw o. Mae ymuno ac undeb yn datgan i'r byd dy fod methu sefyll ar draed dyn hun gan ti'n rhedeg yn crio i'r undeb bob tro gen ti broblem.

Nid peth cachwraidd yw gadael swydd a mynd i un arall, na rhedeg ffwrdd, ond cam dewr positif i symud dy fywyd ymlaen.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Chris Castle » Sad 15 Tach 2003 3:42 pm

Os nad yw pobl yn gallu sefyll fyny dros eu hunain mewn lle gwaith yna bai nhw yw o. Mae ymuno ac undeb yn datgan i'r byd dy fod methu sefyll ar draed dyn hun gan ti'n rhedeg yn crio i'r undeb bob tro gen ti broblem


Dyw Undeb ddim yn rywbeth ar wahan i'r gweithwyr. Gweithwyr yn cydweothio â'i gillydd i wella eu byd yw Undeb.

Ti wedi llyncu chwedl cyfaliafaethol, sef taw dynion rhesymegol yw dynion econmig. Mae eich dadansoddiad o natur dynol yn anghywir. Mor ffol â breuddwyd chomiwnyddiaeth yw dy gred mewn law anweledig y farchnad sy'n gweithredu i les pawb.

Pwer a'r eisiau i gymryd pwer dros eraill yw'r prif gelyn Marchnatwyr Rhydd Rhyddfrydol go-iawn, ac hefyd prif gelyn i Sosialwyr Democrataidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Cwlcymro » Llun 17 Tach 2003 11:55 am

Cymera weithwyr Friction Dynamics yn Gaernarfon. Mi oeddy nhw yn cael ei trin fel cachu, a'r bos yn trio fforsho toriad cyflog arny nhw. Erbyn hyn ma nhw wedi bod ar streic am ddwy flynedd. Ma tribunal wedi penderfynnu ma nhw sy'n iawn a fod y rheolwr wedi ei trin yn anghyfreithlon.
Ma'r gweithwyr dal yng ngiat y ffactri pob dydd, yn disgwyl i gal y pres maen't yn ei haeuddu. Heb undeb tu ol iddy nhw, a cefnogaeth anferth y bobl leol a cwmniau eraill lleol, fysa y streicwyr heb allu aros allan. Mi fysa nhw wedi gorfod unai
-Derbyn y cyflog isal a'r amoda gwaith peryglus
neu
-Gadal, chwilio am waith arall (rhywbeth anodd iawn yn Gaernarfon) a gadal i'r rheolwr gamdrin y lot nesa o weithwyr.

Dyna sa chdi isho RET?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 16 gwestai

cron