Pam bod y newyddion yn America mor sal?

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Sul 16 Tach 2003 11:29 am

O beth dwi'n gofio o ddarllen yr edefyn 9/11 fe fuaswn i'n dweud fod llawer o'r chwith yn fwy beirniadol o Bush yn Iraq nac Al Qaeda yn New York.

Plis rhowch eich beirniadaeth o America a Bush yn ei gyd-destun - yw chi yn meddwl fod beth wnaeth Al Qaeda i America yn waeth gan nid yw chi wedi gwneud eich barn yn glir ar y mater hyn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan huwwaters » Sul 16 Tach 2003 4:52 pm

Ma'r ymosodiad cafodd yr UDA ar y WTC yr un mo'r drwg a be ma nhw wedi bod yn neud dros y blynyddoess. Six of one, half a dozen of the other.

Dwi'm yn deud bod be ddigwyddodd yn iawn, ond dylai'r UDA wedi gweld fo'n dwad, a rwan mae o ma nhw mewn sioc. "Pam feiddir rhywyn ymosod arnym ni?!"

"God bless America." Dene praint for arrogant yw Geroge W. Bush.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan pogon_szczec » Sul 16 Tach 2003 6:42 pm

Byddwn i'n cytuno da Ifan fod newyddion Americanaidd yn dueddol o fod yn unochrog.

Gyda llaw dwi ddim erioed wedi edrych ar 'Fox News'.

Yn bersonol dwi'n cael CNBC sy'n weddol deg.

Ond dwi'n meddwl yn bersonol nad yw Unioliaethwyr yn Ngogledd Iwerddon yn cael chwarae teg gan y cyfryngau ym Mhrydain.

Llawer o ddramau a rhaglenni dogfen am gamymddygiad yr ochr Prydeinig, sdim llawer o sylw ar orffennol (gwaeth) arweinyddion Sinn Fein/IRA. A nid yw dadleuon Unioliaethwyr gwrth-gytundeb yn cael fawr o gyhoeddusrwydd. E.e Ian Paisley, gwleidydd mwyaf boblogaidd Gogledd Iwerddon yn ol pleidleisiau.

Efallai bod hyn yn rhan o agenda America oherwydd y lobi Gwyddelig.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Macsen » Sul 16 Tach 2003 8:19 pm

Wel, does yna ddim un newyddion yn y byd sy'n hollol objective. Mae gan bob un ryw nod mewn golwg. Ond mae rhan fwyaf o wledydd gyda lot o bapurau newydd gyda nod gwahanol i'w gilydd. Mae bron pob un yn America gyda'r un nod.

Pogon a ddywedodd:Ond dwi'n meddwl yn bersonol nad yw Unioliaethwyr yn Ngogledd Iwerddon yn cael chwarae teg gan y cyfryngau ym Mhrydain.


Na, tydi nhw ddim.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Sul 16 Tach 2003 8:54 pm

huwwaters a ddywedodd:Ma'r ymosodiad cafodd yr UDA ar y WTC yr un mo'r drwg a be ma nhw wedi bod yn neud dros y blynyddoess. Six of one, half a dozen of the other.


Felly ti'n meddwl fod ymosodiad gan bobl anetholedig heb rybudd ar bobl ddiniwed (dim soldiwrs arfog) yn gyfystyr a beth mae America wedi ei wneud dros y blynyddoedd?

Pan mae America'n mynd mewn i ryfel mae nhw'n rhybuddio'r wlad ac ymladd yn erbyn eu soldiwrs nid free for all di-rybudd. Cyn i America fynd mewn i Irac roedd trafod am y peth yn yr UN ers misoedd.

Felly fedra i ddim gweld sut mae'r ddau beth yn gyfystyr a dwi wedi synnu go iawn bod unrhyw un yn meddwl hyn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan huwwaters » Sul 16 Tach 2003 9:09 pm

Felly ti'n meddwl fod ymosodiad gan bobl anetholedig heb rybudd ar bobl ddiniwed (dim soldiwrs arfog) yn gyfystyr a beth mae America wedi ei wneud dros y blynyddoedd?


Pa ochr oedd yn gollwng 'cluster bombs' yn Irac? Gall hyn cael ei gyfiawnhau, achos dwi'm yn meddwl na lladd milwyr yn unig y mae rhein.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan RET79 » Sul 16 Tach 2003 9:11 pm

huwwaters a ddywedodd:
Felly ti'n meddwl fod ymosodiad gan bobl anetholedig heb rybudd ar bobl ddiniwed (dim soldiwrs arfog) yn gyfystyr a beth mae America wedi ei wneud dros y blynyddoedd?


Pa ochr oedd yn gollwng 'cluster bombs' yn Irac? Gall hyn cael ei gyfiawnhau, achos dwi'm yn meddwl na lladd milwyr yn unig y mae rhein.


Wyt ti'n cyhuddo America o ladd Iraciaid diniwed yn bwrpasol?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan huwwaters » Sul 16 Tach 2003 9:20 pm

Wyt ti'n cyhuddo America o ladd Iraciaid diniwed yn bwrpasol?


Ydw. Ma nhw fod i wbad gwell na rhyfela os maent yn wlad mor dda.

Doedd dim rhaid iddyn nhw ymosod ar Irac efo'r rheswm y rhoddodd nhw. Doedd Irac ddim yn ffrind yn yr 80au pan oedd Saddam yn gwneud yr hyn yr oedd yr UDA ishio?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan RET79 » Sul 16 Tach 2003 9:24 pm

Fedra i ddim derbyn fod America'n mynd mewn i'r gwledydd yma i ladd pobl diniwed. Dyw hynna jest ddim yn gwneud synnwyr a dwi'n meddwl ti'n gwneud o fyny.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan huwwaters » Sul 16 Tach 2003 9:39 pm

Fedra i ddim derbyn fod America'n mynd mewn i'r gwledydd yma i ladd pobl diniwed. Dyw hynna jest ddim yn gwneud synnwyr a dwi'n meddwl ti'n gwneud o fyny.


Na, eu prif bwriad yw cael rhwydwaith cyfalafol mwy. MA nhw'n lladd pobol diniwed yn y pendraw.

Mi wneith yr UDA syrthio ar ben ei hun, oherwydd fod y gwlad wedi ei sefydlu ar chyfalafiaeth a'r bwriad o fod yn gyfoethog. Fedrwch chi ddim bod yn gyfoethog heb cael rhywyn arall sy'n dlawd, neu does dim gwahaniaeth rhwng y chi a'r llall. Mae'n amhosib mynd yn gyfoethocath i anfeidredd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron