pleidleisio

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

pleidleisio

Postiogan pogon_szczec » Llun 10 Tach 2003 3:16 pm

Falle mod i'n rong ond o'n i'n meddwl taw ..........

pleidleisio dros nid pleidleisio i sy'n gywir.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Macsen » Llun 10 Tach 2003 3:43 pm

Dwi'n credy dy fod ti'n gywir yn yr achos yma.

Dw i yn pledleisio dros Blaid Cymru, nid pledleisio i'r Toriaid.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 10 Tach 2003 3:47 pm

Faswn i'n dueddol o ddweud DROS Blaid Cymru neu Llafur, ond I'R Toriaid neu'r Democratiaid Rhyddyfrydol.

(dwi'n rong tydw?)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cwlcymro » Mer 12 Tach 2003 12:23 pm

Cwestiwn da! Nesi rioed feddwl am y peth. Dwi'n siwr ma 'dros' sy'n iawn hefyd, ond ma shwr ma 'i' dwi'n ddeud!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Osian Rhys » Mer 12 Tach 2003 6:42 pm

dwi ddim yn hollol sicr, ond dwi'n credu mai pleidleisio dros blaid ydech chi, ac i unigolyn. e.e. "dwi'n pleidleisio dros y blaid lafur" (dwi ddim!!), ond "dwi'n pleidleisio i dafydd wigley". dwi'n credu. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Osian Rhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 142
Ymunwyd: Mer 04 Meh 2003 10:31 pm
Lleoliad: Pontypridd ac Aberystwyth

Postiogan Blewgast » Iau 13 Tach 2003 11:35 pm

dwi ddim yn hollol sicr, ond dwi'n credu mai pleidleisio dros blaid ydech chi, ac i unigolyn. e.e. "dwi'n pleidleisio dros y blaid lafur" (dwi ddim!!), ond "dwi'n pleidleisio i dafydd wigley". dwi'n credu.


Cytunaf!! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan sbwriel » Sul 16 Tach 2003 2:00 am

cytunaf hefyd -- ma'r osian na'n iawn bob tro!!
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan Chris Castle » Maw 18 Tach 2003 9:08 am

Dwi'n pleidleisio dros Plaid Lafur. Dwi'n pleidleisio i wella Cymru :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan branwen llewellyn » Mer 19 Tach 2003 8:14 pm

pleidleisio dros sefydliad (h.y. unrhyw blaid dan hael - dros y blaid lafur, dros y blaid doriaidd)
pleidleisio i uniogolion (e.e. dwi'n pleidleisio i Elfyn LLwyd) (tydw i ddim gyda llaw!!)
pish pash potas
Rhithffurf defnyddiwr
branwen llewellyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 242
Ymunwyd: Sul 13 Ebr 2003 10:22 pm
Lleoliad: llanuwchllyn


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron