Papur dalen lydan (diolch Bruce). Byddwn i ddim yn sychu mhen ol gyda'r sothach sy'n cael ei sgwennu gan Sun, Mirror, Daily Mail (sydd dal ishe bod yn bapur dalen lydan), ac ati.
Dw i'n darllen y broadsheets fel arfer, ond mae rhaid i fi brynu tabloid i'w astudio ar fy nghwrs bob hyn a hyn.
Avarage incwm bois sy'n darllen y Financial Times ydi £105,000 y flwyddyn. Felly os dwi'n ei ddarllen o am ddigon, gobeithio wneith fy nhal gynyddu yn sylweddol.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Western Mail! - Llawer o bobl yn ei feirniadu, ond os am gynnwys Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol, hwn yw'r boi! Wedi gwella rhywfaint yn ddiweddar hefyd. Piti fod dim mwy o features. Carolyn Hitt yn wych!