RET79 a ddywedodd:Sdim rhaid i Moore drio am arlywydd yn syth, geith o sefyll lecsiwns llai. Dyna'r gwir dest i'w wleidyddiaeth.
Felly yr unig pobl sydd gyda'r hawl i fynegi barn am wleidyddiaeth yw'r rhai sy'n sefyll mewn etholiadau?
Mae gwleidyddiaeth yn rhan o fywyd bob un ohonon ni, yn effeithio ar bob un ohonon ni, ac yn gyfrifoldeb i bob un ohonon ni. Dw i'n gallu meddwl o sawl maes lle mae'n syniad da i'w "adael i'r proffesiynolwyr", ond dydy gwleidyddiaeth ddim yn un ohonyn nhw.