Wel, dwi'n talu fy nhrethi incwm, treth cyngor, NI, VAT, leisans TV, treth car... dipyn o drethi mewn gwirionedd. Mae ymchwiliadau wedi dangos fod am hanner y flwyddyn waith ti'n gweithio i'r llywodreath.
Dau enghraifft o'r gwasanaeth di-ddim dwi'n ei gael.
1. GPs. Fedra i ddim cael apwyntiad hefo doctor os dwi'n sal os nad ydw i'n cicio stwr uffernol ar y ffon a'i ddisgrifio fel 'emergency'. Hyd yn oed ar ol defnyddio'r gair yna dwi'n lwcus i gael gweld doctor y diwrnod wedyn. A dwi'n gorfod talu prescriptiwn llawn bob tro.
2. Heddlu. Roedd diffyg diddordeb yr heddlu yn y ffaith fod lleidr wedi tori fewn i fy nghar a dwyn fy 6CD changer a 15 CD yn dweud cyfrolau. Wnaeth nhw wrthod dod i weld y car hyd yn oed. Dim help o gwbl. Waeth iddyn nhw ddweud wrtha i "don't bother calling next time" ddim.
Ar ol cysidro'r holl drethi dwi yn ei dalu yna mae'r gwasanaeth hyn yn ddiawledig o sal.
Hoffwn gael mwy o ddewis personol yn y pobl dwi eisiau i wylio ar ol fy eiddo a fy iechyd. Mae gen i ofn hefo'r system bresennol mod i'n talu lot fewn ond cael ychydig iawn allan.
Trafodwch.