Trethi a gwasanaethau

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Iau 27 Tach 2003 9:16 am

Boris a ddywedodd:Mae angen lleihau gryn y wladwriaeth a dibyniaeth pobl ar y wladwriaeth honno.


Dyma lle mae'r ddau ohonom ni'n anghytuno, dwi'n meddwl. Mae gen i gydymdeimlad at y syniad fod ymyrraeth y wladwriaeth yn y farchnad rydd yn niweidiol, ond mi ydw i'n teimlo'n gryf iawn mai cyfrifoldeb y wladwriaeth ydi cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae hi'n bosib cyflawni mwy drwy grynhoi ein adnoddau.

Tydw i ddim yn dweud na fedrwn ni ddiwygio gwasanethau cyhoeddus. Mae ydw i'n lled-gefnogol i'r syniad o Ysbytai Sylfaen, er engrhaifft. Ond, tydw i ddim yn cefnogi'r syniad o wasanaeth iechyd sydd ond yn cynnog y driniaeth orau i'r rhai sy'n medru talu amdano. Cam yn ol i oes Fictoria fyddai sefyllfa o'r fath.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Boris » Iau 27 Tach 2003 12:01 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Mae angen lleihau gryn y wladwriaeth a dibyniaeth pobl ar y wladwriaeth honno.


Tydw i ddim yn dweud na fedrwn ni ddiwygio gwasanethau cyhoeddus. Mae ydw i'n lled-gefnogol i'r syniad o Ysbytai Sylfaen, er engrhaifft. Ond, tydw i ddim yn cefnogi'r syniad o wasanaeth iechyd sydd ond yn cynnog y driniaeth orau i'r rhai sy'n medru talu amdano. Cam yn ol i oes Fictoria fyddai sefyllfa o'r fath.


Na finne chwaith, ond dyna sydd ganddom eisioes. Y syniad ddylau danio'r dychymyg felly yw sut i sicrhau gwell gwasanaeth i fwy o bobl. I wneud hyn mae angen derbyn nad NHS 1950 yw'r ateb. Yn hytrach mae'n rhaid newid y drefn yn sylfaenol. Mae statws 'foundation' yn un ateb, ond nid fel mae Llafur Newydd yn gynnig.

Yr hyn sydd ei angen yw rhoi grym i gymunedau ac unigolion wthio blaenoriaethau o fewn ysbytai penodol. Y ffordd i wneud hyn yw rhoi'r hawl i gleifion fynd am driniaeth i Ysbyty penodol gan fynd ar arian gyda nhw. Mae hyn yn mynd i arwain at godi safonau er mwyn cadw cleifion.

Mae'n taro fi fel sefyllfa hurt fod pobl efo'r hawl i ddewis prynu Levis yn Matalan am £25 yn hytach na'r stryd fawr am £60 tra fod yr un hawl ddim yn bodoli o fewn y gwasanaeth iechyd. Nid y wladwriaeth ddylai benderfynu lle ti'n cael dy drin - ond chdi fel unigolyn.

Nid mynd yn ôl i ddyddiau Victoria yw delfryd o'r fath, ond cam o dywyllwch obsesiwn Prydain gyda'r NHS, sef ateb i broblemau 1950 nid 2003.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Garnet Bowen » Iau 27 Tach 2003 12:44 pm

Boris a ddywedodd:Yr hyn sydd ei angen yw rhoi grym i gymunedau ac unigolion wthio blaenoriaethau o fewn ysbytai penodol. Y ffordd i wneud hyn yw rhoi'r hawl i gleifion fynd am driniaeth i Ysbyty penodol gan fynd ar arian gyda nhw. Mae hyn yn mynd i arwain at godi safonau er mwyn cadw cleifion.

Mae'n taro fi fel sefyllfa hurt fod pobl efo'r hawl i ddewis prynu Levis yn Matalan am £25 yn hytach na'r stryd fawr am £60 tra fod yr un hawl ddim yn bodoli o fewn y gwasanaeth iechyd. Nid y wladwriaeth ddylai benderfynu lle ti'n cael dy drin - ond chdi fel unigolyn.


Dwi ddim yn angytuno efo'r syniad o wella dewis, a rhyddid y claf unigol, o fewn yr NHS. Ond y broblem sylfaenol ydi sut wyt ti'n ariannu system o'r fath? Mi wyt ti, ymysg eraill, yn cynnig sefyllfa lle mae'r arian yn "dilyn y claf". Mae sefyllfa o'r fath yn bodoli yn ein hysgolion, lle mae bob disgybl "werth" swm penodol i'r ysgol, a felly mae ysgolion yn codi eu safonau, er mwyn cystadlu am blant. Y broblem fel dwi'n ei gweld hi, ydi bod gan rhywun syniad go lew o'r dechrau faint mae hi'n mynd i gostio i addysgu plentyn, ond mae hi'n anodd iawn rhagweld faint mae hi'n mynd i gostio i edrych ar ol iechyd person.

Wyt ti'n medru bancio pres nad wyt ti'n ei wario pan ti'n iach? A beth os wyt ti'n defnyddio mwy na dy siar o bres, os oes gen ti gancr, er engraifft, ac angen gofal dwys?

Dwi yn meddwl fod angen rhoi mwy o ryddid i ysbytai i weithredu fel mae nhw'n mynnu. Dwi hefyd yn meddwl fod angen ail-edrych ar pa wasanaethau mae'r NHS yn ei gynnig. Ydi hi'n deg, er enghraifft, fod pres trethdalwyr yn cael ei wario ar driniaeth laser i gael gwared ar tattoos?

Ond, gwella effeithlonrwydd y system wneith newidiadau o'r fath. Mae'r broblem sylfaenol yn dal i sefyll - be' wyt ti'n ei wneud pan mae rhywun angen mwy o driniaeth feddygol na mae'n medru fforddio talu amdano? Sut mae system o daliadau preifat yn medru dygymod a sefyllfa fel hyn, yn deg?

(Fel y gweli di, dwi'n bell o fod yn sicr o'm atebion. Dwi'n gofyn y cwestiynna' 'ma'n ddiffuant.)
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cardi Bach » Iau 27 Tach 2003 12:48 pm

Boris a ddywedodd:

Nid y wladwriaeth ddylai benderfynu lle ti'n cael dy drin - ond chdi fel unigolyn.



Mae gweud hyn yn un peth, ond mae ei weithredu yn beth hollol wahanol.


Does dim un unigolyn yn DEWIS cael triniaeth mewn ysbyty sydd dros gan milltir bant. Ond gyda 'foundation hospitals' dyna fydd yn digwydd.

Ma rhywun yn gallu gweld synnwyr y ddadl yma os mai trefn 'foundation hospitals' fyddai gyda ni yn barod - un ysbyty sydd mewn ardal gyfoethog boblog yn dennu lot o 'gwsmeriaid' (dyna fyddan nhw), ac ysbyty arall mewn ardal wledig dlawd a thipyn yn llai: byddai hyn yn arwain at y meddygon gorau ac adnoddau gorau yn mynd i'r ysbyty sy'n gallu talu amdano. Mewn sefyllfa fel hynny, wrth gwrs y byddai rhywun yn DEWIS mynd i'r ysbyty yma. A fyddan nhw'n gallu fforddio mynd yno, wel mae hynny'n fater egwyddorol sylfaenol arall.

ond petai POB ysbyty yn cael y statws o fod yn Foundation Hospital, yn lle y dethol rai...

Fi'n cydymdeimlo a chonyndrym Blair. Mae'n gweld fod mwy a mwy o wariant gwladol, ac mae'n meddwl am ffordd amgenach o gyflwyno gwasanaethau i'r bobl (fi'n confinsd fod dal i fod rhyddun o sosialydd ar ol yn Blair rhwle!), a'r opsiwn amlyca sy'n cynnig ei hun yw gweud wrth y cwmniau preifat arbenigol i wneud y gwaith dros y wlad. Ond wrth gwrs trafferth sylfaenol hwn iw fos y cwmni yn atebol i'w cyfranddalwyr (arianog) yn unig, ac ddim i bawb, a'u gol iw gwneud elw.

Yn syml dylai fod ysbyty dyweder yn Merthyr yna gallu cynnig yn union yr un gwasanaeth am ddim, yn yr un amser, ac o dan yr un amgylchaidau a ysbyty yn Kensington. Nid dyna'r gwir ar y foment, ac yn sicr o dan Foundation Hospital bydd pethau'n gwaethygu.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Boris » Iau 27 Tach 2003 2:30 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:

Nid y wladwriaeth ddylai benderfynu lle ti'n cael dy drin - ond chdi fel unigolyn.



Mae gweud hyn yn un peth, ond mae ei weithredu yn beth hollol wahanol.




Pam?

Dyma ni wedi cyrraedd craidd y ddadl - talu dy drethi a mae'r llywodraeth yn dewis neu cadw dy drethi a dewis dy hyn.

Craidd dadl Sosialydd yw fod y wladwriaeth yn gwybod yn well, ond mae tystiolaeth o bob man yn dangos yn glir nad yw'r wladwriaeth yn gallu gwario yn effeithiol. Ers 1999 mae gwario ar iechyd yng Nghymru wedi codi 50% a mwy, mae na 3% yn fwy o gleifion yn cael triniaeth.

Ateb i'r broblem yma yn y Gwasaaeth Iechyd yw 'rhyddid i Ysbytai ac rhyddid i unigolion'. Mae'n allweddol fod pobl yn cael y dewis o ddefnyddio Ysbytai Penodol, a Cardi, fel un sydd wedi gweld cleifion o'r Gogledd yn gorfod mynd i Loegr dan y drefn bresennol, dwi'n credu y byddai dewis ysbytai yn rhywbeth y byddai amryw yn fwy na bodlon ei wneud er mwyn cael triniaeth safonol a phrydlon.

Yr hyn mae cystadleuaeth yn ei wneud yw caniatau i ysbytai wella er mwyn cystadlu am gleifion, ac o roi yr hawl i ddewis (+ arian cyfatebol) yn nwylo y claf yna mae yna farchnad mewn grym. Effaith grym y farchnad fydd ysbytai yn defnyddio arian yn gall er mwyn gwella eu peffromiad - llai o fiwrocratiaeth (mae yna dros 10% yn fwy o fiwrocratiaid yn yr NHS na sydd yna o wlau) a mwy o offer, buddsoddiad mewn glendid a rhaglen o ddenu staff meddygol yn ôl i'r system.

Y dewis arall yw parhau i daflu arian at y broblem heb unrhyw effaith amlwg. Mae'n ddyletswydd arnom i newid - mae'r sefyllfa sydd yn bodoli yn warth.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Garnet Bowen » Iau 27 Tach 2003 2:36 pm

Boris a ddywedodd:Dyma ni wedi cyrraedd craidd y ddadl - talu dy drethi a mae'r llywodraeth yn dewis neu cadw dy drethi a dewis dy hyn.


Fel dwi 'di amlinellu uchod, dwi'n gweld rhinweddau'r fachnad fewnol yn y gwasanaeth iechyd, ond dwyt ti ddim yn cynnig ateb i'm mhwynt sylfaenol i - sut mae system o'r fath yn edrych ar ol buddianau'r rhai sy'n methu talu? Mae'r farchnad rydd yn iawn pan ti'n son am bar o Levis, oherwydd does neb angen par o Levis. Ond yr egwyddor 'da ni'n ddadla drosto ydi gwasanaeth iechyd wedi ei selio ar angen, yn hytrach na gallu i dalu. Sut mae gwarchod yr egwyddor yma mewn marchnad rydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Boris » Iau 27 Tach 2003 5:12 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Dyma ni wedi cyrraedd craidd y ddadl - talu dy drethi a mae'r llywodraeth yn dewis neu cadw dy drethi a dewis dy hyn.


Fel dwi 'di amlinellu uchod, dwi'n gweld rhinweddau'r fachnad fewnol yn y gwasanaeth iechyd, ond dwyt ti ddim yn cynnig ateb i'm mhwynt sylfaenol i - sut mae system o'r fath yn edrych ar ol buddianau'r rhai sy'n methu talu? Mae'r farchnad rydd yn iawn pan ti'n son am bar o Levis, oherwydd does neb angen par o Levis. Ond yr egwyddor 'da ni'n ddadla drosto ydi gwasanaeth iechyd wedi ei selio ar angen, yn hytrach na gallu i dalu. Sut mae gwarchod yr egwyddor yma mewn marchnad rydd?


Mae'r pwynt uchod yn un da petawn i wedi dweud fod yn rhaid i bobl dalu. Ond nid dyna dwi'n ddwedu. Y ddadl yw y dylid cyflwyno 'voucher' system sy'n caniatau i bawb ddewis lle i gael triniaeth. Felly y wlad sy'n talu ond yr unigolyn sy'n dewis.

Be ti'n feddwl o ddatblygiad o'r fath?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Cardi Bach » Iau 27 Tach 2003 6:25 pm

Boris a ddywedodd:
Dyma ni wedi cyrraedd craidd y ddadl - talu dy drethi a mae'r llywodraeth yn dewis neu cadw dy drethi a dewis dy hyn.

Craidd dadl Sosialydd yw fod y wladwriaeth yn gwybod yn well, ond mae tystiolaeth o bob man yn dangos yn glir nad yw'r wladwriaeth yn gallu gwario yn effeithiol. Ers 1999 mae gwario ar iechyd yng Nghymru wedi codi 50% a mwy, mae na 3% yn fwy o gleifion yn cael triniaeth.

Ateb i'r broblem yma yn y Gwasaaeth Iechyd yw 'rhyddid i Ysbytai ac rhyddid i unigolion'. Mae'n allweddol fod pobl yn cael y dewis o ddefnyddio Ysbytai Penodol, a Cardi, fel un sydd wedi gweld cleifion o'r Gogledd yn gorfod mynd i Loegr dan y drefn bresennol, dwi'n credu y byddai dewis ysbytai yn rhywbeth y byddai amryw yn fwy na bodlon ei wneud er mwyn cael triniaeth safonol a phrydlon.

Yr hyn mae cystadleuaeth yn ei wneud yw caniatau i ysbytai wella er mwyn cystadlu am gleifion, ac o roi yr hawl i ddewis (+ arian cyfatebol) yn nwylo y claf yna mae yna farchnad mewn grym. Effaith grym y farchnad fydd ysbytai yn defnyddio arian yn gall er mwyn gwella eu peffromiad - llai o fiwrocratiaeth (mae yna dros 10% yn fwy o fiwrocratiaid yn yr NHS na sydd yna o wlau) a mwy o offer, buddsoddiad mewn glendid a rhaglen o ddenu staff meddygol yn ôl i'r system.

Y dewis arall yw parhau i daflu arian at y broblem heb unrhyw effaith amlwg. Mae'n ddyletswydd arnom i newid - mae'r sefyllfa sydd yn bodoli yn warth.


Wy ddim yn credu mod i erioed wedi honni fod y 'wladwriaeth yn gwbod yn well', ond yn sicr mae llywodraeth sy'n cael ei redeg, yn honedig, gan y bobl ermwyn y bobl yn gwybod yn well na busnes - ynghylch beth yw anghenion y gymdeithas. Ond dadl arall am beth yw sosialaeth yw hon, a finne fel ti ddim yn gefnogol o State Socialism (paid boddran mynd ar ol hon, fel wedes i, dadl arall yw hi).

Ond na un lle pendant lle yr y'n ni'n cytuno yw fod y drefn bresenol ddim yn gweithio, ac mai taflu arian heb ddim arwydd o welliant yw ateb y llywodraeth bresenol.

Ond ti'n son am dy brofaid o weld cleifion yn gorfod mynd o Ogledd Orllewin Cymru i Loegr, ac y byddai'n well ganddyn nhw gael dewis. dyma'n union beth oedd fy mhwynt blaenorol. O dan y drefn 'Foundation Hospitals', mae'n siwr y bydd ysbyty o Fanceinion neu Lerpwl yn ennill statws uwch a gwell na Ysbyty Gwynedd yn reit gloi oherwydd y boblogaeth leol a'r cyfoeth cymharol. pa ddewis fyddai hyn i gleifion Gwynedd a Mon? Bydd yr adnoddau a meddygon gorau oll yn yr ysbyty yn Manceinion, a bydd yn rhaid i gleifion - yn enwedig rhai a threfferthion arbenigol - Gwynedd a Mon deithio i Fanceinion. Beth sy'n wahanol? A ble mae'r dewis?

Wy ddim yn credu y gallwn i gefnogi system 'voucher'. Pam na ddylai pawb gael yr un gwasanaeth ym mhob ysbyty? Bydd dim rhaid 'dethol a dewis' wedyn.

Hynny yw os yw'r system Geidwadol yma o 'voucher' yn golygu fod pob ysbyty yn cael yr un arian a'r un adnoddau, yna pam cael voucher? Pam dewis mynd i Fanceinion pan fo'r union wasanaeth gystal ym Mangor?

Yr hyn ma'r voucher system a 'dewis' yn awgrymu i fi yw fod rhai ysbytai yn mynd i gael gwell adnoddau a rhai a gwaeth. Pan fo'n dod i hynny nid mater o ddewis yw hi ond mater o raid, sydd eto yn chwythu y ddadl ynghylch 'dewis'. Blyff yw 'dewis', ffordd pinc fflwffi o wisgo lan polisi sy'n mynd i olygu fod rhywrai rhwle yn mynd i golli mas.

Pan fo'n dod i iechyd dylai 'rhoi dewis' ddim fod yn opsiwn, ond yn hytrach dylai'r gwasanaeth fod yno pan fo angen.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan RET79 » Iau 27 Tach 2003 8:10 pm

Boris a ddywedodd:
Dyma ni wedi cyrraedd craidd y ddadl - talu dy drethi a mae'r llywodraeth yn dewis neu cadw dy drethi a dewis dy hyn.


Yn union.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Chris Castle » Gwe 28 Tach 2003 1:20 pm

dylid cyflwyno 'voucher' system sy'n caniatau i bawb ddewis lle i gael triniaeth.


Os chi'n mynnu cael triniaeth Preifat - ar gyfer hwyluso amseru y triniaeth (sunday gall ladder removel to avoid losing work time)/cael stafell moethus tra dan triniaeth ayyb, does dim 'da fi yn dy erbyn di.

Os ti'n defnyddio eich arian i lwgwobrio Meddygion Llwgr i roi triniaeth iti cyn eraill, mae hynny'n anfoesol

Os wyt am cael voucher system sydd mewn gwirionedd yn government sponsored discount system for the rich to subsidise their special treatment. Mae hynny'n anfoesol.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron