Gogledd Iwerddon - Lle Rwan?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Maw 02 Rhag 2003 11:42 am

boris a ddywedodd:Rant di sail a hollol ragfarnllyd

Alli di ymhelaethu Boris?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cardi Bach » Maw 02 Rhag 2003 5:28 pm

Ar y foment wy'n pryderu am ddyfodol heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r bleidlais yn amlwg wedi cael ei pholareiddio - fel roedd llawer ohono ni wedi rhagweld, a'r pleidiau mwya pwyllog a chymhedrol (o'r ddwy ochr) sydd wedi colli mas.

Ma gweld yr SDLP wedi cal cwymp mor fawr yn itha ergyd, ac falle fod y ddadl yn wir fod Hume wedi bod yn rhy bwerus ac yn ormod o berson o fewn ei Blaid (bron gellir cymharu Hume felly gyda Wigley yn y Blaid, neu Salmond yn yr SNP, ond sgwrs arall yw honno).

Mae'n dda darllen heddi fod Paisley wedi datgan, o fath, eu bont yn barod i 'arwain yn aeddfed' - beth bynnag mae hynny'n golygu, a gobeitho y gwna nhw. dyw Paisley hyd yn hyn ddim wedi dangos dim arwydd o gmedroldeb, neu gyfaddawdu, neu hyd yn oed parch at yr un blaid wleidyddol arall. Ma lot o gyfrifoldeb ar ei sgwydde fe. Fi'n pryderu fod hyn am wneud pethe'n waeth, ond fi'n gobitho y bydd Paysley (er nad yw e wedi dangos dim arwydd o hyn dros 50 mlynedd o wleidydda) yn deffro i'r her, ac yn wirioneddol fabwysiadu'r cysyniad o heddwch yng ngogledd Iwerddon yn seiliedig ar gydraddoldeb a thegwch i BAWB.

Gobitho hefyd y wgelwn ni'r IRA yn 'bite the bullet' fel petai ac yn galw blyff Paisley a datgan dadgomisiynnu llwyr yn weithredol ar unwaith, er mwyn heddwch. Ond fi'n amau.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 02 Rhag 2003 6:00 pm

Cardi sut fedri di ddeud ....
a'r pleidiau mwya pwyllog a chymhedrol (o'r ddwy ochr) sydd wedi colli mas.

a
Mae'r bleidlais yn amlwg wedi cael ei pholareiddio

dyw hyn ddim llai na pandro i rhagfarnau'r teyrngarwyr.

Mae Sinn Fein wedi bod o blaid y cytundeb o'r dechrau ac yn wir dyma'r blaid (ynghyd a plaid Trimble) sydd wedi bod yn catalydd i'r broses heddwch.

Y gwir yw - tra fod pleidlais yr unoliaethwyr wedi gwyro yn erbyn cytundeb Gwener y Groglith ac yn erbyn heddwch mae mwyafrif llethol yn y Senedd yn dal i fod o blaid y cytundeb. UN set yn llai sydd gan y pleidiau sydd o blaid y cytundeb. Beth mae'r DUP wedi llwyddo i wneud yw gwasgu'r pleidiau bach dyna i gyd.

Paid edrych ar y peth drwy sbectol secteraidd Mr Paisley! Ella fod o'n gweld y peth fel Teyrngarwyr vs Gwyddelod ond mae pawb call yn ei gweld hi fel Clymblaid Heddwch vs y Dr :lol: Ian Paisley!

Sut allith unrhyw un cymryd o ddifrif boi sy'n clodfori ysgolion yn yr Afrig a ddysga fod y byd wedi ei greu mewn 7 diwrnod a fod Charles Darwin yn ffruitcake?[/url]
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 02 Rhag 2003 6:08 pm

gyda llaw Boris. Jest i glirio hyn fynny ac i rhoi esgus i ti fy anwybyddu. Dwi ddim yn Heddychwr a dwi'n digwydd meddwl pan fo'r Wladwriaeth yn lladd pobl (Bloody Sunday) ac yn gwrthod hawliau democrataidd (Saethwyd 13 Bloody Sunday am fynnu "one man one vote" - eithafwyr yn amlwg!) yna mae hawl gan y dosbarth gweithiol i ddefnyddio grym yn ol.

Petawn i'n byw yn Derry yn y 70au mae'n debyg fyddwn wedi marw neu yn y carchar erbyn hyn. Fydde Paisley, Bwledi Plastic, Internment, y Paratroop Regiment, Shoot to Kill, Tear Gas, Gorymdeithiau bygythiol, Y Short Strand, Cartrefi Cachu Divis, a cal fy nhrin yn ddyddiol fel cachu gan y llywodraeth i gyd wedi fod yn sargant recriwtio hynod effeithiol ar gyfer y PIRA.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Cardi Bach » Maw 02 Rhag 2003 6:14 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Cardi sut fedri di ddeud ....
a'r pleidiau mwya pwyllog a chymhedrol (o'r ddwy ochr) sydd wedi colli mas.

a
Mae'r bleidlais yn amlwg wedi cael ei pholareiddio

dyw hyn ddim llai na pandro i rhagfarnau'r teyrngarwyr.

Mae Sinn Fein wedi bod o blaid y cytundeb o'r dechrau ac yn wir dyma'r blaid (ynghyd a plaid Trimble) sydd wedi bod yn catalydd i'r broses heddwch.


[/url]


Wy ddim o reidrwydd yn anghydweld yn llwyr a ti, ond ma datgan o'r ochor cenedlaetholgar fod yr SDLP yn fwy cymhedrol na Sinn Fein yn berffeth iawn, ac o ochor y teyrngarwyr fod yr UUP yn fwy cymhedrol na'r DUP hefyd yn iawn. Dyna'r cwbwl oedd y gosodiad wyt ti wedi ddyfynu.

A thra dy fo ti'n iawn fod Sinn Fein wedi bod yn gefnogol i'r broses - wy ddim yn anghydfynd a thi o gwbwl - yr unig reswm y gellir datgan mai nhw oedd 'catalydd' y broses yn fwy na'r SDLP yw am fod Blair a'i lywodraeth wedi datgan - yn iawn neu beidio (peidio yn fy marn i) - mai dim ond gyda Sinn fein o'r cenedlaetholwyr y byddan nhw'n trafod. Doedd yr SDLP ddim ynddi felly i fod yn gatalydd. Roedd llais yr SDLP yn cael ei anwybyddu gan lywodraeth Lloegr.

Mae hynny yn ei hun yn ddigon rhyfedd gan fod yr SDLP wedi galw ar i'r IRA ddad-arfogi yn llwyr hefyd (ynghyd a phob byddin para-filwrol arall), sydd i mi yn ddigon teg (er mod i'n gallu deall a gweld rhwystredigaeth cefnogwyr y para-filwyr, fel fi wedi gweud mewn trafodeth arall). Os odd Blair & co. yn gweld rhinwedd dadl Sinn Fein mai araf bach a bob yn dipyn oedd yr IRA (a'r lleill) i ddad-arfogi, yn pam troi cefn arnyn nhw yn ystod y stint dwetha o ddad-arfogi? A oedd Blair a'i lywodraeth, ac a YW Blair a'i lywodraeth, bellach yn bradychu'r cenedlaetholwyr trwy fynnu eu bont yn datgan pob peth gafodd ei dadarfogi, yn groes i'r cytundeb gwreiddiol?

Ar ol gwaith caled Hume, mae gweld yr SDLP yn gwneud mor wael yn agos at dor-calonus.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 02 Rhag 2003 6:27 pm

Cardi ma hyna jest yn anghywir. Roedd yr SDLP yn rhan o'r trafod ar Gytundeb Gwener y Groglith. Y gwir yw fod Sinn Fein jest di neud gwell job o'r trafodaethau. Roedd llywodraeth prydain yn trafod a'r ddau. Nid oedd modd siarad a dim ond Hume gan fod Sinn Fein yn cynrychioli carfan eang o farn cenedlaetholwyr y chwe sir ac yn ryw fath o lais gwleidyddol i'r PIRA - fel mae llywodraeth prydain yn llais i'r British Empire Army. Doedd dim modd cael heddwch heb cynrychiolwyr y ddau fyddin!

Fel ddudodd Aled - agwedd di droi y DUP a'r wannabe Paisleys yn yr UUP sydd wedi lleihau apel yr SDLP. Y cenedlaetholwyr mwy breintiedig a dosbarth canol wedi gweld nad yw'r unoliaethwyr yn fodlon cyrraedd cyfaddawd a hwy.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan pogon_szczec » Maw 02 Rhag 2003 8:29 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:gyda llaw Boris. Jest i glirio hyn fynny ac i rhoi esgus i ti fy anwybyddu. Dwi ddim yn Heddychwr a dwi'n digwydd meddwl pan fo'r Wladwriaeth yn lladd pobl (Bloody Sunday) ac yn gwrthod hawliau democrataidd (Saethwyd 13 Bloody Sunday am fynnu "one man one vote" - eithafwyr yn amlwg!) yna mae hawl gan y dosbarth gweithiol i ddefnyddio grym yn ol.

Petawn i'n byw yn Derry yn y 70au mae'n debyg fyddwn wedi marw neu yn y carchar erbyn hyn. Fydde Paisley, Bwledi Plastic, Internment, y Paratroop Regiment, Shoot to Kill, Tear Gas, Gorymdeithiau bygythiol, Y Short Strand, Cartrefi Cachu Divis, a cal fy nhrin yn ddyddiol fel cachu gan y llywodraeth i gyd wedi fod yn sargant recriwtio hynod effeithiol ar gyfer y PIRA.


Ers pryd y mae y Short Strand a chartrefi cachu Divis wedi bod yn Londonderry?

Mare'r DUP yn cynrychioli'r dosbarth gweithiol, felly pam nad wyt ti yn eu cefnogi nhw?

Ac os yw yr IRA yn llofruddio Protestaniaid dosbarth gweithiol diniwed e.e. mewn siop tships shwd y maent i ymateb?

Wedi'r cyfan nhw wedi lladd yn fwy na neb. Shwd wyt ti'n ymateb i'r ffaith bod yr IRA wedi lladd mwy o Babyddion na'r fyddin Brydeinig?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 02 Rhag 2003 9:39 pm

Ti'm yn gwadu fod y gweddill yn Nerry felly gyfaill?

Nid son am pethau yn Derry o'ni heblaw am Bloody Sunday. Deud taswn i di tyfu fynnu yn Nerry byddwn i wedi ymuno ar PIRA oeddwn i.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 02 Rhag 2003 9:54 pm

Pwyntiau teg, a dwi'n hapus i'w ateb Poggon

Mare'r DUP yn cynrychioli'r dosbarth gweithiol, felly pam nad wyt ti yn eu cefnogi nhw?

Dwi ddim yn cefnogi'r DUP achos eu bod nhw yn blaid adweithiol wrth dosbarth gweithiol. Jest achos bo rhai pobl dosbarth gweithiol yn pleidleisio i'r BNP - diom yn meddwl fo rhaid i mi eu cefnogi. Dwi am weld ni fel dosbarth yn codi ein golygon a'n deffroad gwleidyddol fel ein bod yn gallu rheoli cymdeithas ar fodel teg. Dwi ddim am weld agweddau adweithiol e.e. Homoffobia, Hiliaeth, Sectariaeth yn cael ei gryfhau - bychau dihangol wedi ei osod gan y dosbarth rheoli i'n gwahanu yw rheini.

ACHOS FOD Y DUP YN WRTHYN I DDIDDORDEBAU'R DOSBARTH GWEITHIOL GWAETH PWY SY'N PLEIDLEISIO IDDI.

Ac os yw yr IRA yn llofruddio Protestaniaid dosbarth gweithiol diniwed e.e. mewn siop tships shwd y maent i ymateb?


Dwi'n cytuno a ti. Coelia neu beidio dwi'n condemio'r PIRA pan dwi mewn cwmni gweriniaethol. Dyma twpdra ymgyrch y PIRA. Petaent wedi cadw at targedau milwrol GALLEN nhw fod wedi enill y rhyfel. Wrth fynd am dargedau meddal anfoesol collon nhw cerfnogaeth anghenrheidiol. A creu'r UVF UFF ayb. Backlash yw hyn gan y dosbarth gweithiol teyrngarol. A pan ddechreuodd hwna aeth pob gobaith am Iwerddon rhydd unedig. A lladdwyd pobl nad oeddent yn haeddu eu lladd.

Dwi'n gweld tebygolrwydd yn y ffaith fo Cymuned yn peintio'r Saesneg o arwyddion dwyieithog - twp yn fy marn i. Yma yn Sir y Fflint mae pobl wedi dechrau peintio'r Cymraeg allan rwan. Dwi'n gobeithio mai nid dechrau adwaith y mwyafrif di gymraeg yw hwn.

DYLENT YMATEB DRWY CEISIO DWYN GWREIDDIAU'R PIRA. DYLENT FYNNU ESTYN HAWLIAU - ONE MAN ONE VOTE A BALLU ER MWYN SICRHAU CYNHWYSIANT YN Y BROSES DEMOCRATAIDD. MAE'N HAWDD DEALL PAM NAD HYN DDIGWYDDODD, OND MAE'N BITI. GWARTH AR Y PIRA.



Wedi'r cyfan nhw wedi lladd yn fwy na neb. Shwd wyt ti'n ymateb i'r ffaith bod yr IRA wedi lladd mwy o Babyddion na'r fyddin Brydeinig?


Dwi'n amau dy fod yn anghywir ond dwi ddim yn gwybod os ydi hynnu'n wir. Rhoi di chydig o amser i mi checio fy ffeithiau?

Sorri fod y neges mor hir!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Chris Castle » Mer 03 Rhag 2003 9:46 am

Paid a bod mor nawddoglyd. Mae Seamus Mallon, cyn ddirprwy arweinydd yr SDLP wedi gwneud y pwynt mae hoelen olaf yn arch yr SDLP oedd penderfyniad Blair ac Ahern i wrthod cyfarfod yr SDLP ac yn hytrach delio gyda Sinn Fein wrth ymdrechu i ail gychwyn y broses heddwch. Yn ôl Mallon, y neges glir oedd mae Sin Fein sydd a chlust y llywodraeth.


Pleideisiau enillodd statws i Sien Fein. Aeth y pleidleisiau i Sien Fein o achos poendod y Pabyddion o achos cynnydd cryfder y DUP.
- casineb ethnig am byth petawn ni ddim yn ei hatal.

Ond dwi'n cytuno dylai'r Llywodraeth hybu plaid Trimble a'r SDLP yn hytrach na'u tanseilio. Yr unig gobaith i Ogledd Iwerddon yw adeiladu gwleidyddiaeth anenwadol. TRafod â "Therfysgwyr" ydy'r unig modd i'w gwneud hyn.
Petaech chi'n gwrthod siarad â McGuiness, byddai'n ôl y tu ôl i'w Armalite yn syth. Mae'n well 'da fi ie weld dros bwrdd gyda Trimble.
Ond gorau oll bydd gweld tranc Sien Fein/DUP.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron