doedd Prydain ac America ddim yn targedu 'civilians' yn bwrpasol, ond mae'n amlwg bod yr IRA yn gwneud hynny, e.e. trwy taflu 'incendiary device' trwy ffenest cartref.
Cartrefi "ysbiwyr" a "milwyr" iddyn nhw.
Ffrwydrodd america tybwyty "rhag ofn" roedd Sadam yn bwyta pryd o fwyd yna. Civilians i gyd wnaeth marw.
Hefyd mae'n rhaid cofio bod McGuinness wedi galw am y Paras cael ei broseciwtio. Pam na ddylai gael ei broseciwtio ei hun am weithredoedd mwy ffiaidd fel lladd plant mewn gwaed oer?
Dyna'r fath reswm fy mod i'n cefnogi syniadaeth yr SDLP. Ond trial deall Sien Fein ydyn ni yma.
Appeasement yw caniatau Plaid mewn llywodraeth i gael ei byddin breifat ei hun. Mae unrhyw gytundeb sy'n gynnwys Sinn Fein/IRA mewn llywodraeth wedi'i adeiladu ar dywod.
Fel arfer byddaf yn cytuno. Ond pryd mae grwp yna'n cynrychioli carfan healaeth y poblogaeth (sydd wedi dioddef gormes) mae rhaid symud pethau ymlaen.
Gallaf dderbyn bod McGuinness wedi gweld rhywfaint o anghyfiawnder yn ei fywyd. Ond nid yw hynny yn cyfiawnhau achosi marwolaeth i blant mewn enghraifft glur o gasineb ethnig.
Efallai dwi'n anghywir ond dwi ddim yn credu taw casineb ethnig oedd
raison d'etre yr IRA. Ond roedd casineb ethnig
raison d'etre thygs megis Adair. Ond dwi'n cytuno roedd aelodau'r IRA yr un mor
thygaidd a does esgus dros hynny.
Falle bod Pabyddion wedi cael cam yn hanesyddol yn y ddinas, ond beth am y sefyllfa heddiw?
Mae Protestaniaid mewn nifer o lefydd yn Wlster yn colli tir fel y mae cymunedau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru.
Does modd amddiffyn glanhau ethnig, ond digwiddodd dros Wlster ar y ddwy ochr.
Pam mae cymaint o Gymry yn gefnogol i'r rhai sy'n gorfodi iddynt adael i gartrefi ?
Does modd amddiffyn glanhau ethnig, ond digwiddodd dros Wlster ar y ddwy ochr.