Fydde chi'n mynd yn ôl?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Fydde chi'n mynd yn ôl?

Postiogan eusebio » Gwe 05 Rhag 2003 3:38 pm

Oes yna un wlad/dinas rydych wedi ymweld â hi a byddech yn dychwelyd yno fory nesaf?

Cefais i fy rhyfeddu yn Azerbaijan ac rwy'n credu fod y rhan yna o'r byd yn ofnadwy o ddifir.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan nicdafis » Gwe 05 Rhag 2003 3:58 pm

<a href="http://www.nantucket.net/">Nantucket</a>. Bues i 'na ddwywaith gyda fy nghyn-bartner (oedd ei theulu yn dod o'r ynys), ac mae e'n lle anhygoel, er gwaethaf yr holl Americanwyr cyfoethog. Anhebyg iawn fydda i'n gallu fforddio mynd yn ôl yn fuan.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan eusebio » Gwe 05 Rhag 2003 4:01 pm

Mae'n rhaid i mi ddweud nad oeddwn erioed wedi bod eisiau ymweld ag America.
Ond wedi Cymru drefnu gêm gyfeillgar yn erbyn America yn San Jose, treuliais wythnos yn San Francisco - uffar o le braf - a cefais fy siomi ar yr ochr orau.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan mogwaii » Gwe 05 Rhag 2003 4:24 pm

bues i i twrci rhai blynyddoedd yn ol a ma fen wlad gret i ymweld a. pobol nesi, tywydd braf a golygfeydd stunning
Rhithffurf defnyddiwr
mogwaii
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Maw 28 Hyd 2003 2:56 pm
Lleoliad: caerdydd

Postiogan cymro1170 » Gwe 05 Rhag 2003 4:34 pm

Iwerddon - pobl gyfeillagr iawn, wedi cael croeso yno bob tro.
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan iwmorg » Gwe 05 Rhag 2003 4:39 pm

Wedi bod yn Rhufain ddwywaith eleni- cael amser gret yno. Cwrw braidd yn ddrud a'r pobl braidd yn flin, ond y genod yn anhygoel o ddel, a gymaint o bethau diddorol i'w gweld yno.

Buaswn yn hoffi dychwelyd i Filan hefyd. Bum yno'n gwylio'r gem ym mis Medi, ond ches i ddim llawer o amser yno i weld y golygfeydd.
Rhithffurf defnyddiwr
iwmorg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 328
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 9:04 am

Postiogan nicdafis » Gwe 05 Rhag 2003 5:19 pm

eusebio a ddywedodd:Mae'n rhaid i mi ddweud nad oeddwn erioed wedi bod eisiau ymweld ag America.
Ond wedi Cymru drefnu gêm gyfeillgar yn erbyn America yn San Jose, treuliais wythnos yn San Francisco - uffar o le braf - a cefais fy siomi ar yr ochr orau.


Oedd San Francisco un o'r uchalbwyntiau i mi hefyd, pan es i draw 'na. O'n i'n ffeindio'r Americanwyr yn gyfeillgar iawn, a SF un o'r dinasoedd pertaf dw i wedi bod ynddi (nid mod i wedi bod mewn llawer).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Fatbob » Gwe 05 Rhag 2003 5:29 pm

nicdafis a ddywedodd:
eusebio a ddywedodd:Mae'n rhaid i mi ddweud nad oeddwn erioed wedi bod eisiau ymweld ag America.
Ond wedi Cymru drefnu gêm gyfeillgar yn erbyn America yn San Jose, treuliais wythnos yn San Francisco - uffar o le braf - a cefais fy siomi ar yr ochr orau.


Oedd San Francisco un o'r uchalbwyntiau i mi hefyd, pan es i draw 'na. O'n i'n ffeindio'r Americanwyr yn gyfeillgar iawn, a SF un o'r dinasoedd pertaf dw i wedi bod ynddi (nid mod i wedi bod mewn llawer).


Di bod yna ddwy waith ac yn cytuno, fues i na yn '95 a bues i i angladd Jerry Garcia o'r Grateful Dead! Wel rodd gymaint o bobol yn y prosesiwn a ro ni ar fws ar y pryd, dodd dim modd symud trwy'r bobol felly es i i ddilyn nhw. A fe fues i na rhyw ddwy flynedd nol, ma'r lle'n hollol wahanol i weddill dinasoedd America y bues i iddynt, ond dim ond i California, Nevada, Arizona a New York State dwi di bod.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Geraint » Gwe 05 Rhag 2003 5:33 pm

Cytuno am SF, bues i yno am ddiwrnod, tra ar trip maes da prifysgol yn Santa Cruz (lle wych arall, lle ffilmwyd Lost Boys...le ma Neil Young yn byw)
Ers i mi fod yna, dwi wedi dod yn ymwybodol o hanes y beats, Kerouac ayb, a fyddai'n adio mwy i'r profiad. Hoffeni ddreifio lani Seattle/Vancouver hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan mred » Sad 06 Rhag 2003 4:15 am

Arfordir Gwlad y Basg rhwng Deba a Bilbo/Bilbao, lle bûm yn seiclo, oddeutu i Gernika. Golygfeydd rhyfeddol, y tir yn wyrdd a bryniog iawn, coed eucalyptus a phîn, arfordir troellog, creigiog gydag ambell i draeth. Yr arwyddion Basg yn rhoi ryw awyrgylch ecsotig i'r lle. Lle da i syrffio, yn ôl fy nghydymaith yno (Mundaka yn fyd-enwog yn y cyswllt hwn).

Y Massif Central, Ffrainc ac i lawr i'r de drwy'r Cevennes hefyd yn lle hynod ddiddorol i gerdded, gyda hen losgfynyddoedd, ceunentydd, dolydd llawn cennin pedr gwyllt a chrocus, ayb. Mi ydw'i yn hoff o Ffrainc oherwydd yr amrywiaeth tirlun sydd yno, a'r llwybrau traws gwlad.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron