Hogyn o Rachub a ddywedodd:2. Y llyn 'na tu-ôl i Ty Hyll, Betws Y Coed. Methu cofio'i henw nac wedi bod 'na am flynyddoedd, ond mae'n grêt!
3. Nantgwynant-Beddgelert. Ardal hyfryd.
Ath fi a gwynab wUw am dro i Lyn Geirionydd sy tu ol i Ty Hyll y dySul ar ol Sdeddfod leni am ffresh-er a bechdan wy ac wedyn i lawr am Nant Gwynant. Os barciwch chi'r car/beic/ceffyl wrth ymyl y lle glo wedyn dringo dros y giat rochor arall i'r lon a cherad am dipyn drwy'r caea yn dilyn swn nant y mynydd groyw loyw - yna, mi ddowch chi at wal gerrig. Dringwch hi a wele'r pwll bach dela'n y byd - dwr clir fel crishal a nant y mynydd yn ffrydio i mewn iddi. Nath o fyd o les i fy hangover jin i...
Wedyn dringwch yn uwch ac yn uwch ac mi welwch chi mai'r olaf mewn cyfres o byllau oedd y pwll bach cynta. Ma'r nant yn cychwyn o dop y mynydd ac yn mynd rholl ffor lawr gan adael pyllau bach ymhob man. Y peth aidial i neud ydi neidio i'r dwr a dilyn y pylla i lawr gan sleidio o un pwll i'r llall ar sleid o fwsog. Ma na un neu ddau sy'n ddigon dyfn i ddeifio i mewn iddo fo...mmmmmm... Lle nefolaidd.
O.N. Cofiwch *beidio* adal eich dillad nofio reit yn top fel nesh i agoro cerad nol fyny i'w casglu nhw - dyyyy.
Cwm Pennant "O, Arglwydd, paham y gwnaethost Gwm Pennant mor
hardd(?)/A bywyd hen fugail mor fyr?"
Dinas Dinlla - nunlla tebyg iddo fo yn gaea pan sa neb o gwmpas a phan ma'r gwynt yn gwylltio'r mor ac yn rhuo yn dy glustia di a heli a gwallt ar draws dy ddannadd. Golygfa anfarwol o'r Eifl a'i chriw. Da ni'n mynd am dro no bob dydd Dolig a lluchio'n sgarffia i fyny i weld y gwynt yn mynd i'r afal efo nhw.
Tre'r Ceiri - lle aidial i fynd am dro cyn i gwn caer godi. Dwi'n teimlo mor fyw yn y boreua bach pinc rheini pan ma pawb arall yn cysgu'n sownd.