Jeni Wine a ddywedodd:Chris Castle a ddywedodd:Blydi nashis rhagfarnllyd, paranoid a gwrth Saesnig .... mwmian ... grwgnach ...
Yndw dwi'n genedlaetholwr, a sginim cwilydd o'r peth. Yndw dwi'n paranoid ac mai alla i fod yn ragfarnllyd - a hynny am resymau da. Ac
wrth gwrs mod i ddim yn wrth-Saesnig, y lembo gwirion. Cefnogol i'r Gymraeg ydw i. A ma na wahaniaeth sdi...
o gorau.
Pam dweud Serendip te? Beth am fathu ymadrodd newydd. Dyna lle mae ieithoedd yn datblygu. Pobl (cymeriadau) sy'n defnyddio'r iaith mewn ffyrdd gwahanol a lliwgar. Clywais yn diweddar am "Dwylo fel mydfflaps mansell". Engraifft arall yw
Sbooberisms wedi pistar Smooner a wnaeth gweud deiriau yn rong.
Beth am hyn
Serendip = ar hap ffodus, Damweinol da, Ffawd ffodus, neu rwpeth debyg.
Yn lle CWYNO CWYNO CWYNO - bod yn mentrus!
Petai'r Cymry yn fwy entrepreneurial 'se llai o broblemau ieithyddol. Drycha ar fy arwyddair.