Cynrychiolaeth Gyfrannol - Da neu Ddrwg?

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dylan » Mer 17 Rhag 2003 4:44 pm

Hmm. 'Dw i'n meddwl mai sustem Prydain sydd orau gen i i ddweud y gwir. Er bod Ty'r Arglwyddi yn sefydliad od braidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Mer 17 Rhag 2003 4:48 pm

Dylan a ddywedodd:Hmm. 'Dw i'n meddwl mai sustem Prydain sydd orau gen i i ddweud y gwir. Er bod Ty'r Arglwyddi yn sefydliad od braidd.


Sefydliad od braidd? Be am sefydliad cwbwl anemocrataidd?

A dim ond dechrau'r stori ydi Ty'r Arglwyddi. Mae democratiaith ym Mhrydain yn lanast, o'r lefel cyngor plwyf reit i fyny at Buck House (sef cartref ein harweinydd cyfansoddiadol).

Nid mod i'n dadlau yn erbyn democratiaith bleidiol, seneddol. Ond mae 'na angen ad-drefnu go iawn ar y system Brydeinig.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Mer 17 Rhag 2003 4:56 pm

cweit :D

'Dw i'n cytuno bod angen ad-drefnu yn ofnadwy. Cynrychioldeb cyfrannol ydi'r ffordd, 'dw i'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Mer 17 Rhag 2003 4:59 pm

Dylan a ddywedodd:Cynrychioldeb cyfrannol ydi'r ffordd, 'dw i'n meddwl.


Yn hollol. Mi fyddai cynrychiolaeth cyfrannol yn sicrhau y byddau 'na gonsensws asgell chwith ym Mhrydain am flynyddoedd maith i ddod. Mi fyddai polisi i gyd yn cael ei lunio gan Lafur/Lib Dems. Typical bod Tony mor hunan-bwysig fel ei fod yn gwrthod cefnogi'r syniad am y byddai'n lleihau y grym y mae o 'di ei grynhoi o'r gwmpas y fo ei hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Mer 17 Rhag 2003 5:08 pm

mae Blair wedi mynd braidd yn rhy 'arlywyddol' yn sicr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Chwadan » Mer 17 Rhag 2003 5:20 pm

Ond efo cynrychiolaeth cyfrannol fasa gen ti ddim consensws rhwng pleidia asgell chwith! Sa na neb â mwyafrif ac mi fasa pleidia ymylol fel y BNP yn sicr o gael cynrychiolaeth yn y Senedd. Dwi'm yn ama sa fo'n dda o ran faint o seddi sa Plaid Cymru, y Gwyrddion a'r Lib Dems yn ennill ond sa fo ddim yn dda o ran gallu'r llywodraeth i basio deddfau angenrheidiol - mi fasa'r gwrthbleidia yn gwrthwynebu ac ati yn y gobaith o gael ffurfio'r llywodraeth nesa etc.

Sa system fel sy gan y Cynulliad, sef cyfuniad o GG a first-past-the-post yn lot gwell achos mi fasa fo'n torri mwyafrif y Blaid Lafur ar adega fel hyn ac yn eu rhwystro rhag pasio deddfa fel yr un ffioedd dysgu tra'n creu llywodraetha mwy sefydlog na rhai wedi eu seilio ar gynrychiolaeth gyfrannol yn unig. Diolch byth, ma etholiada cyffredinol yn ddigon i stopio llywodraetha rhag mynd yn or-gryf yma, ond rhwng etholiada, sna'm byd i stopio Tony rhag troi yn despot bach annymunol.

Fel ma petha, ma system Prydain yn cael ei edmygu gan wledydd sydd â chynrychiolaeth gyrfannol gan ei bod yn arwain at lywodraethau cryf - sbiwch ar system Ffrainc ac mi welwch pam. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Garnet Bowen » Mer 17 Rhag 2003 5:29 pm

Chwadan a ddywedodd:Ond efo cynrychiolaeth cyfrannol fasa gen ti ddim consensws rhwng pleidia asgell chwith!

Fel ma petha, ma system Prydain yn cael ei edmygu gan wledydd sydd â chynrychiolaeth gyrfannol gan ei bod yn arwain at lywodraethau cryf - sbiwch ar system Ffrainc ac mi welwch pam. :?


Wrth gwrs, mae 'na broblemau efo CG, ond mae'n rhaid i chdi gofio fod 'na lot fwy o gytuno rhwng y Lib-Dems a Llafur na sydd 'na rhwng pleidiau mewn gwledydd eraill. Er enghraifft - aelod SDP, sef rhanniad o'r Blaid Lafur, oedd Charles Kennedy yn wreiddiol. A sbia pam mor debyg ydi polisiau'r ddwy blaid. Canlyniad CG fyddai gwthio'r Toriaid i fod yn drydedd plaid, gan ryddhau'r prif bleidiau o bwysau o'r dde.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Mer 17 Rhag 2003 5:31 pm

Ond onid yw'r egwyddor ddemocrataidd yn bwysicach na hynny? 'Dw i'n gweld y ddadl ac yn cytuno bod sustem y Cynulliad yn reit dda. Gwir ydi bod gan llywodraeth Prydain ormod o rym.

(rhyfedd sut mae edefau yn gallu troi mor sydyn Delwedd)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Mer 17 Rhag 2003 5:32 pm

ateb i Chwadan oedd hwnna, yn amlwg
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Chwadan » Mer 17 Rhag 2003 5:45 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Canlyniad CG fyddai gwthio'r Toriaid i fod yn drydedd plaid, gan ryddhau'r prif bleidiau o bwysau o'r dde.

Ond plaid asgell dde ydi'r brif blaid :winc:.

Ddudwn ni fod Llafur a'r Lib Dems yn ffurfio llywodraeth a gwrthblaid o dan gynrychiolaeth gyfrannol. Wyt ti'n meddwl fod consensws llwyr rhwng prif bleidia yn beth da? Pan ma gen ti bleidia tebyg o ran ideoleg yn flaenllaw mewn system gynrychiolaeth gyfrannol, di hynna ddim yn gweithio'n dda iawn chwaith achos a) mi fydd y ddwy yn cydweithio ac mi fydd y llywodraeth yn medru pasio'r rhan fwyaf o ddeddfa yn ddidrafferth, h.y. llywodraeth gryfach nac erioed neu b) mi fydd yr wrthblaid yn newid ei pholisiau ac mi fydd y llywodraeth yn wan a di-gonsensws.

Swn i ddeud fod system wleidyddol Cymru yn gynsail da iawn ar gyfer un Prydain. Da iawn ni :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai