Dwi'n un o'r rhai sydd wedi aros ar ôl yng ngogledd Cymru, mae'n anhygoel faint o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith sydd wedi gadael bellach - dwi ddim yn eu beio'n llwyr - mae'r swyddi da yng Nghaerdydd. Dwi'n chwilio am waith rwan does yna ddim swyddi i drio amdanyn nhw. Dwi'n prynu'r Daily Post a'r Western Mail i chwilio am waith ac mae'r mwyafrif o'r swyddi da yng Nghaerdydd.
Oes yna rhywun wedi byw yn JMJ Bangor neu Pantycelyn Aberystwyth yn y blynyddoedd diwethaf - mi faswn i'n rhoi ges fod tua 1/2 y rhai oedd ym Mhantycelyn o fewn y 5-8 mlynedd diwethaf wedi mynd i Gaerdydd.
Mi fasen ddiddorol gwybod faint o Gymry Cymraeg sydd wedi cael gradd sydd wedi mynd i Gaerdydd. Mi wnes i drio ffeindio allan ond dydi'r brifysgol ddim yn cadw gwybodaeth am fyfyrwyr dim ond am flwyddyn ar ôl iddyn nhw adael.
OND, er nad ydw i'n beio'r rhai sydd wedi mynd i Gaerdydd rhaid iddyn nhw ddeall na fydd y cymunedau Cymraeg mae'n nhw wedi eu gadael yn parhau i fod yn ganolfannau Cymraeg diwylliedig am byth. Mae'n ddigon hawdd deud rwan y gnewch chi symud yn ôl pan gewch chi blant, ond mae arna i ofn na fydd posib i'r rhai ohonan ni sydd ar ôl i gadw'r hyn gawson ni gyd ein magu gyda nhw (ee adrannau'r urdd, ysgolion sul, clybiau ffermwyr ifanc, corau) i fynd.
Rhaid i ni sylweddoli ein bod ni'n colli cenhedlaeth o Gymry Cymraeg i fynd i Gaerdydd