gan Geraint » Iau 18 Rhag 2003 12:52 pm
Os gai ychwanegu mwy na fy nhri gwreiddiol............
Llyn Clywedog ar ddiwrnod clir. Unrhyw le uchel yn Sir Drefaldwyn ar ddiwrnod peoth clir, ellwch chi weld y bryniau gwyrdd o'ch gwmpas, ac yn y pelter, mynyddoedd tywyll.
Artists Valley, uwchben Ffwrnais yn hyfyrd, ffindies i Rhaeadr hyfyrd ar hap wth gwrydro o'r ffordd unwaith.
Ma sawl di deud Cwmorthin, ond buo chi rioed ochr arall i fynydd Allt fawr, ir Gogledd o Gwmorthin? Mae yna gwm enfawr, sy'n mynd lawr i Blaenau Dolwyddelan, pasio fferm o'r enw Nhadog Isaf. Hwn di'r lle mwy diarffordd, gwyllt, hynafol dwi rioed di bod i, llawn o gerrig, corsydd, llynoedd bach, a byth gweld neb arall o gwmpas. Hawdd oedd meddwl mod i nol mewn amser, tan i mi gyrraedd top Allt Fawr, a da chi reit uwchben chwarel enfawr llawn swn a prysurdeb.