Cymedrolwr: Cwlcymro
nicdafis a ddywedodd:Dw i'n credu y dylai'r bobl oedd/sydd yn erbyn y rhyfel fod yn llawer mwy balch na'r "hebogiaid" fod Saddam wedi'i ddal. Bydd yn achos llys diddorol iawn. Dw i'n siwr bod Bush yn gweddïo am Jack Ruby newydd wrth i ni siarad.
Boris a ddywedodd:nicdafis a ddywedodd:Dw i'n credu y dylai'r bobl oedd/sydd yn erbyn y rhyfel fod yn llawer mwy balch na'r "hebogiaid" fod Saddam wedi'i ddal. Bydd yn achos llys diddorol iawn. Dw i'n siwr bod Bush yn gweddïo am Jack Ruby newydd wrth i ni siarad.
Ehhh?
Balch fod y boi wedi ei ddal oherwydd gweithredoedd a wrthwynebwyd gan bob blydi 'dull di drais' trndi lefti o fewn Maes e?
Oes na ddim fath beth a chywilydd yn bodoli ar y chwith.
O wneud dim, sef galwad y chwith, yna fe fyddai Saddam yn dal mewn pwer - canlyniad uniongyrchol i weithredu yn ol dymuniadau y chwith.
Cardi Bach a ddywedodd:
Oes ma cywilydd yn bodoli 'ar y chwith' - cywilydd o'n llywodraeth gormesol.
Cywilydd fod ein 'so-called civilization' ni sydd gymaint yn well mor farbaraidd.
ie, ateb tipical, ond na fe.
Boris a ddywedodd:
Balch fod y boi wedi ei ddal oherwydd gweithredoedd a wrthwynebwyd gan bob blydi 'dull di drais' trndi lefti o fewn Maes e?
Oes na ddim fath beth a chywilydd yn bodoli ar y chwith.
O wneud dim, sef galwad y chwith, yna fe fyddai Saddam yn dal mewn pwer - canlyniad uniongyrchol i weithredu yn ol dymuniadau y chwith.
Sioni Size a ddywedodd:Yr un hen ddadl sydd wedi ei ateb droeon.
Dwyt ti a dy deip ond yn erbyn unbeniaeth os ydi o yn erbyn 'interests' Prydain. Ac os yw'r unbeniaeth yn erbyn 'interests' Prydain ti'n troi'n bleeding heart mwya'r byd wedyn.
Saddam yn prynu arfau ganddom yn yr 80au- bawd i fyny.
Saddam yn gwrthod talu - bawd i lawr.
A wedyn ti'n dod a chywilydd i fewn i'r ddadl. Croeso'n ol Boris, ro'n i'n meddwl dy fod yn crio yn dy wely ar ol gweld dy gamweddau, ond ti mor focused ac erioed.
Sioni Size a ddywedodd:Get a grip. Gan dy fod yn mynnu dod a'r IRA i fewn i bob neges gyrra un breifat i fi yn dangos dy enghraifft o 'glodfori' a mi gawn ni drafod o'n fanna.
Tori blaenllaw Cymru a clodforwr yr Urdd Oren ddim yn pro-brit!
Sori am fynd off y pwnc ond felna mae'r boi ma.
Felly Boris, wyt ti felly yn dweud y dylai diwydiant arfau prydain stopio rwan hyn oherwydd fod o'n arfogi gwledydd 'rogue' ac ansefydlog ac unbeniaethol ynteu oes na ormod o swyddi yn y fantol yn fama i boeni am drueniaid y byd?
Pa fath o dori wyt ti ddyn. Callia! Be ydio i ni os ydi un gang o wops yn lladd gang arall o wops (Alan Clark, tori)?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai