Boris a ddywedodd:
Chdi sy'n ddall. Dyma'r datganiad mwyaf simplistic a thwp eto o fewn maes e. Mae yna gyfiawnhad i drais weithiau. Roedd yna gyfiawnhad i'r Ail Ryfel Byd, roedd cyfiawnhad clir i weithredu yn Bosnia er mwyn amddiffyn y mwslemiaid ac i'm meddwl i roedd cyfiawnhad dros ryfel yn erbyn Irac.
Mae gweithredu yn foesol yn gywir. Peidio gweithredu weithiau sy'n anfoesol.
Dwi'n parchu heddychwyr, ond dwi ddim yn cytuno gyda nhw, yn enwedig pan mae nhw'n cyflwyno dadl mewn ffordd sarhaus ac hunan gyfiawn.
Boris, ma'n flin gyda fi dy fod ti'n timlo rheidrwydd i sarhau a siarad ar dy gyfer.
On wyt ti wedi colli pwynt fy neges? Fi'n ame hynny.
Mae beth sy'n gyfiawn i ti, a dy syniadaeth Orllewinol am gyfiawnder a beth sy'n iawn ac yn gywir yn hollol wahanol i syniadaeth y ffwndamentaliad Mwslemaidd o beth sy'n iawn a chyfiawn.
Felly am Saddam wele Bush, neu am Arafat wele Sharon ayb.
Wy ddim yn gweud fan hyn fod un ochr yn fwy iawn na'r llal, gweud ydw i fod pob un ohonyn nhw yn defnyddio eu ffug-'superiority' crefyddol/gwleidyddol fel rheswm dros ladd.
Fel wedodd Gandhi, y drafferth gyda'r gred o lyagd am lygad yw y bydd pawb yn y pendraw yn ddall.