Sioni Size a ddywedodd:Dos a fo i'r edefyn arall y nob.
Colli'r ddadl 'falle?
Cymedrolwr: Cwlcymro
Sioni Size a ddywedodd:Crist o'r nef!
Os oes rhaid, mae Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn selio eu cred a'u gwleidyddiaeth ar ffasgaeth a cadw'r catholic yn ei le.
Rwan ateb fy un i. Ydi hi'n iawn gwerthu arfau i wledydd sy'n gormesu? Enwa un wlad mae Prydain wedi gwerthu arfau iddyn nhw sydd ddim yn euog o unrhyw ormes.
Cardi Bach a ddywedodd:ie, ond howld on, gynta i gyd dyw e'n neud dim sens i fi, hyd yn oed a derbyn unrhyw blydi ffigyrau i ddadlau fod cyfiawnhad dros ladd 1, 10, 100, 10,000 rahgor o bobl ddiniwed, a hynny let alone y pwynt nad oedd pob 'avenue' wedi eu defnyddio i ddatrys y broblem
Ar ben hyn, Bush Snr alwodd am y 'cease fire' yn 91. Pam na fydda america wedi mynd ar ol Saddam bryd hynny er mwyn cael regime change?
Fel hen ddyn, na gyd odd e moyn. Bastard yr un modd, ond hardly yn fygythiad i ddiddordebau Prydeinig!
Boris a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:ie, ond howld on, gynta i gyd dyw e'n neud dim sens i fi, hyd yn oed a derbyn unrhyw blydi ffigyrau i ddadlau fod cyfiawnhad dros ladd 1, 10, 100, 10,000 rahgor o bobl ddiniwed, a hynny let alone y pwynt nad oedd pob 'avenue' wedi eu defnyddio i ddatrys y broblem
Ar ben hyn, Bush Snr alwodd am y 'cease fire' yn 91. Pam na fydda america wedi mynd ar ol Saddam bryd hynny er mwyn cael regime change?
Fel hen ddyn, na gyd odd e moyn. Bastard yr un modd, ond hardly yn fygythiad i ddiddordebau Prydeinig!
Mae pwynt un yn un teg. Tydi niferoedd ddim yn allweddol, be di'r cyfianhad yw'r cwestiwn. Fel dwi di deud hyd syrffed mae Regime Change yn gyfiawnhad dros weithredu.
Bush Snr, tosser. Serch hynny, y rheswm cyfreithiol dros beidio mynd ar ôl Saddam oedd fod Rhyfel Cyntaf y Gwlff wedi ei awdurdodi gan y CU a hynny er mwyn rhyddhau Kuwait. Be ddaru Bush Snr, gweithredu yn unol a dymuniadau y CU. Rhyfedd o fyd, Bush Snr yn gweithredu yn unol efo'r CU a Cardi bach yn gwrthwynebu!
Mae dy bwynt olaf yn gwneud i Blair swnio'n dda. Dim buddiannau Prydain ac eto mae o'n gweithredu - moesol ta be!!! Dwi ddim yn dueddol o amddiffyn Blair oherwydd y WMD crap a gafwyd ganddo. Ond mae Cardi yn iawn i ddweud fod Blair wedi gweithredu heb unrhyw reswm amlwg o fantais i Brydain.
Cardi Bach a ddywedodd:Ond rodd America am gael yr olew. Dyna oedd cymhelliad America.
Yr unig reswm fod America am gaelPrydain oedd oherwydd ei dylanwad o fewn yr UE (sef gelyn mawr economaidd pennaf America). Gweithiodd hynny ddim, ac felly fe wedon nhw eu bod nhw am fynd ar ben eu hunen.
Ma Blira jyst moyn cael gweld ei enw yn y llyfrau hanes fel yr un oedd wedi 'liberato' Irac, drws nesa i Churchill a Ffrainc, ond fethodd e, felly y next best thing oedd cael ei weld fel y 'ngotiator' rhyngwladol.
Boris a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Ond rodd America am gael yr olew. Dyna oedd cymhelliad America.
Yr unig reswm fod America am gaelPrydain oedd oherwydd ei dylanwad o fewn yr UE (sef gelyn mawr economaidd pennaf America). Gweithiodd hynny ddim, ac felly fe wedon nhw eu bod nhw am fynd ar ben eu hunen.
Ma Blira jyst moyn cael gweld ei enw yn y llyfrau hanes fel yr un oedd wedi 'liberato' Irac, drws nesa i Churchill a Ffrainc, ond fethodd e, felly y next best thing oedd cael ei weld fel y 'ngotiator' rhyngwladol.
Da gweld dy fod yn cytuno efo llawer o fy mhwyntiau - dwi'n trio bod yn adeiladol. Serch hynny Cardi, rhagfarn llwyr yw dweud nad wyt yn cytuno da popeth oherwydd fy mod yn DORI. Wedi'r cyfan, onid beth ti'n ddeud sy'n cyfrif nid pwy sy'n dweud?
Fedrai ddim cytuno efo chdi am yr olew. Ti'n swnio fel petae UDA am ddwyn yr olew. Mae strategaeth BUSH ers ei ethol yn strategaeth o leihau dibyniaeth ar y Dwyrain Canol am olew, dyna ei strategaeth a dyna sy'n digwydd (gweler Mexico, Alaska a Columbia). Ond hyd yn oed os bydd olew Irac yn mynd i'r UDA fe fydd pris y farchnad yn cael ei dalu gyda'r arian yn mynd i lywodraeth na fydd yn gweld arfau a heddlu cudd fel blaenoriaethau. Siawns bod ti'n gweld hyn?
O ran dy bwynt am UE / CU. Wel oedd, falle fod yr UDA am gael Ewrop on board, ond fe fyddai gwneud hynny trwy NATO wedi bod yn haws. Ac os oedd y CU mor ddibwys pam yr holl ymdrech?
O ran UE yn elyn economaidd - pull the other one! Mae economi Ewrop yn chwildryns tra fod UDA yn parhau i gynyddu y 'gap' a hynny yn gyflym iawn. Pam ti'n meddwl fod bron holl gwmniau ceir yr Almaen yn buddsoddi dim yn y wlad honno tra'n tywallt arain i mewn i'r UDA? Mae Daimler-Chrysler hyd yn oed yn trafod symud y pencadlys byd eang i'r UDA. Ffantasi yw'r ddadl hon Cardi. Ac am yr Ewro - hihihihihihi
Cardi Bach a ddywedodd:Boris, er fod Bush wedi datgan ei fod am anwybyddu statws unigryw Alaska fel ardal o natur a gwyddonol bwys i'r byd, lle na ddylid cloddio nac amharu oherwydd ei rol allweddol yng nghylchrediad y ddaear, a'i fod, er gwaetha hyn i gyd, am geisio ei orau i gloddio yno (un o'r 'un-tapped' reserves olew mwyaf yn y byd yn yr Alaska), a'i fod hefyd wedi cynyddu ei fewnforio o Venezuela ayb, er mwyn cynnal cyfoeth yr Amerig, ac economi America fel ag y mae heddiw, mae e hefyd yn mynd i fod yn llwyr ddibynol ar y Dwyrain Canol. Dyna pam nad yw America wedi gwirio (ratify?) cytundeb Kyoto, achos fod eu defnydd a'i gor-ddibyniaeth hwy ar olew yn mynd i aros yn gyson (ac felly cynyddu).
Ie, regime change oedd cymhelliad Bush, ond nid regime change er lles pobl Irac (fel rwyf wedi drafod eisioes) ond regime change fyddai'n golygu na fyddai rhywun fel Saddam Hussein a'i debyg rhyngddo fe a'r olew. Yn yr un modd a'i fod wedi llwyddo i gael cyn reolwr o OPEC mewn grym yn Affganistan, felly hefyd y gobaith yn Irac.
Cymhelliad Bush am regime change oedd Olew, a'i allu i gyrraedd yr olew hwnnw. Rodd Saddam yn bygwth taflu OPEC (sy'n cael ei reoli gan America) oddi ar ei hechel, ac felly rodd angen cael gwared ohono. Welodd Saddam ffordd mwy cyfrwys o daro America, a hynny nid trwy arfau, ond trwy economi olew, ai safle bron unigryw ef i allu gwneud niwed. Rodd e felly yn beryglus i hunan-ddiddordeb Bush a'i griw yn America, ac felly ro'n nhw am gael gwared ohono.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai