Gwisg ysgol

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwisg ysgol

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 19 Rhag 2003 10:50 pm

Beth yw barn eraill ar wisg ysgol. Roeddwn yn sbio ar lyniau dosbarth o fi a fy mrawd a fy chwaer yn ein blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol gynradd yn ddiweddar a sylweddolais nad oedd yr un ohonant yn gwisgo gwisg ysgol tra bod pawb arall yn y dosbarth yn gwneud. Gofynais i fy mam pam nad oeddent yn gwisgo gwisg ysgol a dywedodd oherwydd bod ein tad yn teimlo bod yr unigolun mewn addysg yn bwysig. Ydych chi yn cytuno efo hyn? Dwi' n meddwl bod yr unigolun mewn addysg yn holl bwysig on dwi' m yn deall syd mae be ti' n wysgo yn adlewyrchu y ffaith bod ti' n unigolun. Wedi' r cwbwl pam ti' n yr ysgol gynradd ti gwysgo y dillad mae dy rieni yn roi i ti a felly mae dy ddillad dim ond yn adlewyrchiad ar sdeil dy rieni. Hefyd os gyna chdi wisg ysgol mae' n siwr bod ti' m yn cystadlu efo eraill am pwy sydd efo dillad gorau. Ond wedyn ella bod gwisg ysgol yn gor gymdeithasu pobl ac yn cymerud yr unigolun allan o' r person :( :D
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 20 Rhag 2003 12:14 am

y syniad tu ol gwisg ysgol ydy fod pawb yn gwisgo run peth ac felly fod pawb yn deg, hynny yw bo chi methu gwahaniaethu (wel gweld) rhwng pwy sy'n dlawd ac yn gyfoaethog.

flynyddoedd yn ol mi roedd yna ddau fersiwn o wisg ysgol Penweddig mae'n debyg, un yn ddrud o siop swanc ar llall yn rhad. defeats the object i ddeud y gwir FELLY fe gaetho nhw wared or drefn gan stopio cynhyrchu y wisg rhad ag roedd rhaid i bawb fynd am yr un ddrud! HURT!

yn bersonol dwi ddim yn cytuno efo gwist ysgol, dwi o blaid amrywiaeth a rhyddid i bawb wisgo be ma nw ishe, tyfu a lliwio eu gwallt fel ma nw ishe ab tyfu barfau fel ma nw ishe (o fewn rheswm).
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 20 Rhag 2003 9:40 am

Dwi o'u plaid am y rhesymau ma Rhys di nodi uwchben. Mae'n symbol o gydraddoldeb, ac yn 'cuddio' gwahaniaethau cymdeithasol fel bod neb yn teimlo'n israddol i neb o ran delwedd. Yn dweud hynny, oeddwn i'n casau'r blydi pethau, ond o'u plaid.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 2:35 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi o'u plaid am y rhesymau ma Rhys di nodi uwchben. Mae'n symbol o gydraddoldeb, ac yn 'cuddio' gwahaniaethau cymdeithasol fel bod neb yn teimlo'n israddol i neb o ran delwedd. Yn dweud hynny, oeddwn i'n casau'r blydi pethau, ond o'u plaid.


Dwi'n cytuno efo Hogyn o Rachub.

Heb wisg ysgol fe fyddai plant o gefndir cyfaethog yn hob nobbio o gwmpas mewn dillad drudfawr. Mater o fod yn deg gyda pawb yw gwisg ysgol, ma da ti weddill dy fywyd i fod yn gwisgo be ti'n ddymuno.

Serch hynny, mae'n ymddangos fod staff Cyngor Gwynedd yn colli dyddiau ysgol. Mae na gannoedd yn cerdded rownd Gaernarfon mewn costiau Cyngor Sir! Ond wedyn, so ti'n unigolyn rhydd dy farn fydde ti'n gweithio i Gyngor Sir? (joc :winc: )
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Ramirez » Llun 22 Rhag 2003 3:01 pm

Ay, ond os ti'n glyfar, elli di neud i ddillad rhad edrych yn well na dillad drud :crechwen:
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 3:05 pm

Ramirez a ddywedodd:Ay, ond os ti'n glyfar, elli di neud i ddillad rhad edrych yn well na dillad drud :crechwen:


Falle wir, ond ti heb weld fi. dwi'n gallu gwneud dillad drud edrych yn rhad. Bol yn lle wrong, gwddw mawr - sa blydi Armani yn rhoi'r ffidil yn to efo fi. Sd ti tips i mi felly?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 22 Rhag 2003 5:06 pm

Dw i erioed wedi rhoi fy ffydd yn fy het :)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub


Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron