Boris a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:pogon_szczecin a ddywedodd:A fyddech yn cytuno efo Saunders Lewis pan ysgrifennodd nad oedd gwahaniaeth foesol rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a Hitler?
Wel, 'roedd ganddo bwynt am wn i.
'Roedd Saunders dal yn idiot cofia.
Oes modd i ti ymhelaethu fan hyn? Mae dy ddatganiad yn dweud pethau mawr felly fe ddylet gyfiawnhau y gosodiad neu jyst tynnu dy eiriau yn ôl.
Dwi chwaith ddim yn credu fod SL yn idiot. Anghywir, anghynnes hyd yn oed - oedd. Idiot - na.
Moesoldeb yn rhywbeth personol iawn felly mae'n uffernol o anodd i'w ddiffinio.
Er bod Stalin, er enghraifft, wedi bod yn gyfrifol am fwy o farwolaethau na Hitler, mae'n bosib gellir dweud bod Hitler yn 'waeth' yn foesol oherwydd 'roedd yn canolbwyntio ei ymdrechion ar fathau arbennig o bobl (Iddewon, hoywon, yr anabl ayyb). Tra 'doedd Stalin ddim yn gwahaniaethu llawer o ran hynny. 'Roedd jyst anghytuno ag o yn ddigon.
'Dw i ddim yn cymharu'r Ymerodraeth Brydeinig â'r Natsiaid, ond jyst pwyntio allan nad oedd y ffordd 'roedd mwyafrif y bobl a'u gormeswyd ddim yn cael eu trin yn gynnes iawn. 'Roedd hiliaeth yn cael ei ddefnyddio fel cyfiawnhad. 'Roedd y 'barbariaid anwaraidd' 'ma
angen rhywun fel Prydain i gadw trefn. Ond o leiaf aethont nunlle'n agos at hil-laddiad. Felly 'roeddent yn 'debyg' i'r Natsiaid o ran y meddylfryd ''ryden ni'n well na'r rhain' ac eu trin fel pobl ail-ddosbarth, ond ddim yn agos i fod ar yr un raddfa, wrth gwrs. Os ydi hynny'n gwneud synnwyr.
Hwyrach bod galw SL yn 'idiot' ychydig yn gas.
ond 'roedd ganddo syniadau rhyfedd dros ben. Rhinweddau ffasgiol iawn yn ei feddylfryd. Wltra-genedlaetholgar, eisiau dad-ddiwydiannu Cymru (
), gwrthod condemnio cyfundrefnau Ffasgaidd ar y cyfandir...
pethau felly. Athrylith, ond od. Ac anghywir.