Beagle 2 vs Ysbytai a Ysgolion

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beagle 2 vs Ysbytai a Ysgolion

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 23 Rhag 2003 11:09 pm

Ar fore Nadoig, bydd Beagle 2yn landio ar Planed Mawrth. Mae'r llywodraeth wedi gwario bron iawn £35 miliwn ar teclyn sydd ddim mwy na olwyn beic a'i yrru fo i planed Mawrth.

Beth sydd yn gwylltio fi yw bod pobl yn meddwl bod y fath beth yn gwastraff arian ac deud ' The government should spend it on schools and hospitals'.

Be mae pawb arall yn meddwl ? Dwi'n meddwl bod anturiaeth gwyddonol fel Beagle 2 yn gwerth pob ceiniog. A'r bobl sydd yn dweud 'schools and hospitals' ddim yn gweld yn bellach na blaen eu trwynau.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Barbarella » Mer 24 Rhag 2003 12:59 am

Yr un pobl sy'n dweud na ddylid gwario arian ar y Gymraeg, wrth gwrs :rolio:

Beth bynnag, mae'r llywodraeth wedi bod yn gyndyn iawn i roi cyllid i Beagle 2. Bu'n frwydr fawr i gael arian i'r peth. Rhoddodd y llywodraeth llai nag £8 miliwn yn y diwedd, a ddaeth £9 miliwn gan asiantaeth gofod Ewrop (sef y rhai oedd yn lawnsio Mars Express).

Daeth y gweddill o ymddiriedolaethau a chwmniau preifat, ond dim ond oherwydd bod y boi tu ôl y prosiect, Collin Pillinger, yn athrylith PR. Gafodd e lot o sylw i'r syniad trwy gael cyfraniadau celfyddydol gan Blur a Damien Hirst ar y Beagle (ac felly lot o sylw yn y wasg).

Felly dim ond £8 miliwn gan llywodraeth y DU -- siomedig iawn.

A faint o filiynau ni'n rhoi i'r adran amddiffyn?!

(off-topic, ond ow mai god, dwi newydd sylwi pam nad yw'r Cymry yn gyfalafwyr -- mae treigliadau yn golygu bod ni ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng biliwn a miliwn. "Biliynau" sydd i fod yn y paragraff blaenorol...)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 24 Rhag 2003 5:54 pm

Yn union, dwi wedi darllen bod Pillinger wedi'w targedu gan y llywodraeth i fod yn 'Tsar' Gofod yn y llywodraeth Prydeinig. Mi fydd yn biti os bydd yn cael y gwaith, oherwydd bydd y llywodraeth yn hoffi cymeryd gyd o'r clod tu ol i phrosiect Beagle 2.

Dwi'n gobeithio yn fawr os bydd Beagle 2 yn llwyddianus, jyst i ddangos bod y llywodraeth/philistines bod ni'n gallu fod yn rhan hanfodol o'r ESA.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 24 Rhag 2003 8:21 pm

Dw i'n meddwl fod prosiectau am Beagle 2 yn bwysig i ni gael deall mwy am ein gofod ac ehangu'n gwybodaeth o'r bydysawd. Does gen i ddim problem gwario arian ar brosiectau felly ... mae Beagle 2 dim ond ffracsiwn o'r pris o'r pethau mae'r Americanwyr wedi gyrru i fyny i Fawrth, mae'n fargen!!

Ond gwir, pobl sy'n dweud na ddylem ni fod yn gwario ar pethau fel Beagle 2 yw'r union bobl sy'n dweud ein bod ni'n 'gwastraffu' arian ar y Gymraeg neu ar brosiectau cymunedol amrywiol.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub


Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron