Dylan a ddywedodd:Alla' i ddim anghytuno mwy. Ti'n trio fy ngwneud allan i fod yn rhywbeth 'dydw i ddim.
Ti'n anghofio fod cyfraith yn bodoli a fod dim hawl gan y troseddwr wneud beth wnaeth o
Ble ddywedais i hyn? Plîs paid a rhoi geiriau yn fy ngheg i. 'Dadl dyn gwellt' (
straw man) pur ydi hwnna.
Wrth gwrs 'mod i'n poeni am hawl pobl i beidio gorfod dioddef tor-cyfraith. Pwysleisio ydw i mai'r ffordd gorau i wneud hynny ydi trwy fynd i wraidd y broblem a meddwl yn ddwys
pam fod rhywbeth wedi digwydd a beth ellir ei wneud i'w rwystro rhag digwydd eto.
Mae angen taclo gwreiddiau tor-cyfraith yn ogystal a thor-cyfreithwyr. Meddwl tymor-byr ydi unrhywbeth arall. Elli di gloi fyny pa bynnag faint o dor-cyfreithwyr a fynni di ond daw rhaw eraill yn eu lle. Mae fel ceisio datrys problem cyfrifiadurol trwy ei waldio â morthwyl. Hwyrach ei fod yn sortio'r broblem am gyfnod byr, ond os wyt ti'n parhau i anwybyddu gwraidd sylfaenol y broblem yna bydd yn gwaethygu yn y tymor byr.
Wel dwi'n cytuno rhaid trio stopio pethau ddigwydd cyn iddynt ddigwydd.
Ond sori, dwi dal ddim yn siwr o dy agwedd tuag at dor cyfraith. Dwi ddim wedi fy mherswadio fod gen ti dosturi tuag at y dioddefwr o'i gymharu a'r troseddwr.
Wyt ti'n derbyn dy fod yn byhafio'n afresymol trwy ofyn am brawf 100%, sydd fel ti wedi cyfaddef dy hun sydd ond yn bosib mewn maths etc.?
Dwi'n diddordebu pa mor lwyddianus sydd raid i system cyfraith a threfn fod i ti fod yn hapus gyda hi. Os oes dim ond 1 mewn 10,000 llofrudd yn cael cam, fuaset ti'n dweud fod hon yn system gyfraith dda? Fedri di ddim cael 100%, fel dwedaist dy hun, felly gen i ddiddordeb yn pa % fyddet ti'n hapus hefo.