Faint sy wedi marw yn Irac?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Creyr y Nos » Maw 23 Rhag 2003 12:24 pm

Cardi Bach

Dyna pam nad yw America wedi gwirio (ratify?) cytundeb Kyoto, achos fod eu defnydd a'i gor-ddibyniaeth hwy ar olew yn mynd i aros yn gyson (ac felly cynyddu).


Ma America (a Rwsia dwi'n meddwl) wedi gwrthod gwirio cytundeb Kyoto er bod yna gonsensws gwyddonol byd eang bron bod angen lleihau ar allyriannau nawr er mwyn sicrhau rhyw fath o arafu yn newid yr hinsawdd. Yn wyneb y fath brawf gwyddonol, mae gwrthod y cytundeb yn sicr yn awgrymu y bydd America yn or ddibynnol ar olew yn y dyfodol. Dwi'n credu, yn obeithiol, ei bod hi'n anhebygol y caiff America ymelwa'r olew yn Alaska. Dwi'n credu y byddai cymaint o wrthwynebiad bydol i hyn ag a welwyd i'r rhyfel yn Irac. Ma hyn yn cefnogi'r farn y bydd America yn ddibynnol ar olew y Dwyrain Canol.
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Boris » Maw 23 Rhag 2003 12:34 pm

Creyr y Nos a ddywedodd:
Cardi Bach

Dyna pam nad yw America wedi gwirio (ratify?) cytundeb Kyoto, achos fod eu defnydd a'i gor-ddibyniaeth hwy ar olew yn mynd i aros yn gyson (ac felly cynyddu).


Ma America (a Rwsia dwi'n meddwl) wedi gwrthod gwirio cytundeb Kyoto er bod yna gonsensws gwyddonol byd eang bron bod angen lleihau ar allyriannau nawr er mwyn sicrhau rhyw fath o arafu yn newid yr hinsawdd. Yn wyneb y fath brawf gwyddonol, mae gwrthod y cytundeb yn sicr yn awgrymu y bydd America yn or ddibynnol ar olew yn y dyfodol. Dwi'n credu, yn obeithiol, ei bod hi'n anhebygol y caiff America ymelwa'r olew yn Alaska. Dwi'n credu y byddai cymaint o wrthwynebiad bydol i hyn ag a welwyd i'r rhyfel yn Irac. Ma hyn yn cefnogi'r farn y bydd America yn ddibynnol ar olew y Dwyrain Canol.


Oh yeah?

Camwch yn ôl bois. Be da chi'n ddeud?

1. Chaiff America ddim bod yn hunan gynhaliol o ran olew oherwydd yr angen i ddefnyddio olew o Alaska - defnydd y bydd 'rent a mob' y mudiad gwyrdd yn wrthwynebu.

2. Mae'n rhaid felly fod America yn mynd i ryfel yn Irac er mwyn cael yr olew.

3. Teg felly fyddai dweud mai effaith naturiol protestio re. Alaska yw rhyfel yn Irac.

Fuzzy logic ta be
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Maw 23 Rhag 2003 1:32 pm

http://www.guardian.co.uk/oil/story/0,1 ... 72,00.html

Erthygl George Monbiot Rhagfyr yr ail 2003.
Dyma yw diweddglo yr erthygl.
In view of all this, the notion that the war with Iraq had nothing to do with oil is simply preposterous. The US attacked Iraq (which appears to have had no weapons of mass destruction and was not threatening other nations), rather than North Korea (which is actively developing a nuclear weapons programme and boasting of its intentions to blow everyone else to kingdom come) because Iraq had something it wanted. In one respect alone, Bush and Blair have been making plans for the day when oil production peaks, by seeking to secure the reserves of other nations.

Os am ffraeo hefo'i ddadansoddiad, darllenwch weddill yr erthygl rhag ofn i chi edrych yn wirion.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Boris » Mer 24 Rhag 2003 11:52 am

Sioni Size a ddywedodd:http://www.guardian.co.uk/oil/story/0,11319,1097672,00.html

Erthygl George Monbiot Rhagfyr yr ail 2003.
Dyma yw diweddglo yr erthygl.
In view of all this, the notion that the war with Iraq had nothing to do with oil is simply preposterous. The US attacked Iraq (which appears to have had no weapons of mass destruction and was not threatening other nations), rather than North Korea (which is actively developing a nuclear weapons programme and boasting of its intentions to blow everyone else to kingdom come) because Iraq had something it wanted. In one respect alone, Bush and Blair have been making plans for the day when oil production peaks, by seeking to secure the reserves of other nations.

Os am ffraeo hefo'i ddadansoddiad, darllenwch weddill yr erthygl rhag ofn i chi edrych yn wirion.


So mae George Monibot yn dweud ac mae Sioni yn coelio. Mae na fath beth a meddwl drostot dy hun. Gwrando a darllen dadleuon y ddwy ochr a dod i benderfyniad.

Chydig yn anodd i Sioni 'simplistic' ddwedwn i
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Mer 24 Rhag 2003 1:11 pm

Briliant Boris! Tra mae'r holl bropaganda ma drwy'r teledu, drwy'r papurau, drwy'r llywodraeth a thrwy twats hunanol di-asgwrn cefn ffiaidd o blaid y rhyfel, ti'n cyhuddo'r bobl sy'n erbyn y rhyfel am beidio meddwl drostyn nhw'u hunain!
Pam fod Monbiot yn anghywir, Boris?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: Nifer o bobl sydd wedi ei lladd yn irac

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 24 Rhag 2003 10:56 pm

Newt Gingrich a ddywedodd:
lowri larsen a ddywedodd:Odda chi' n gwybod bod 3 gwaith gymaint o bobl wedi ei lladd yn Irac ar ol y rhyfel cyn bellad a wan na be gafodd ei lladd yn ystod y rhyfel. :( Trisd ia.


Trist iawn.

Ond mae hefyd yn ffaith fod Cymorth Cristnogol yn amcangyfrif fod 12,000 wedi ei lladd yn Irac ers dechrau y rhyfel, llai na'r nifer a laddwyd pan ymosododd Saddam ar y Cwrdiaid efo nwy gwenwynig.

Yn ystod rhyfel Irac Iran fe laddwyd dros 3,000,000 a hynny mewn wyth mlynedd. Yn rhyfel cyntaf y Gwlff yr amcangyfrif yw fod dim llai na 50,000 wedi marw. Yn ystod y deg mlynedd diwethaf amcangyfrifir fod tua 1,000,000 o ddinasyddion Irac wedi ei lladd gan y llywodraeth. Mewn un noson yn 1998 cafod 8,000 o garcharorion (llawerryn grcharorion gwleidyddol) ei dienyddio.

Rho dy ffeithiau mewn cyd-destun Lowri a diolcha fod Saddam wedi mynd.


be am Dwrci, be ma America a Prydain am neud ynghlyn ar ffor wnaeth/mae y Twrcs yn trin y Cwrdiaid?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Sioni Size » Gwe 26 Rhag 2003 1:27 pm

Paid a son am Dwrci! Mae Twrci gwsmer hynod werthfawr i'n diwydiant arfau, tra stopiodd Irac brynu ganddon ni yn 1988.
Meddylia'r niwed nei di i'r economi wrth son am Dwrci?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron