Cardi Bach
Dyna pam nad yw America wedi gwirio (ratify?) cytundeb Kyoto, achos fod eu defnydd a'i gor-ddibyniaeth hwy ar olew yn mynd i aros yn gyson (ac felly cynyddu).
Ma America (a Rwsia dwi'n meddwl) wedi gwrthod gwirio cytundeb Kyoto er bod yna gonsensws gwyddonol byd eang bron bod angen lleihau ar allyriannau nawr er mwyn sicrhau rhyw fath o arafu yn newid yr hinsawdd. Yn wyneb y fath brawf gwyddonol, mae gwrthod y cytundeb yn sicr yn awgrymu y bydd America yn or ddibynnol ar olew yn y dyfodol. Dwi'n credu, yn obeithiol, ei bod hi'n anhebygol y caiff America ymelwa'r olew yn Alaska. Dwi'n credu y byddai cymaint o wrthwynebiad bydol i hyn ag a welwyd i'r rhyfel yn Irac. Ma hyn yn cefnogi'r farn y bydd America yn ddibynnol ar olew y Dwyrain Canol.