Yr ail ryfel byd.

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr ail ryfel byd.

Postiogan pogon_szczec » Maw 23 Rhag 2003 10:21 pm

Gan fod sut gymaint o heddychwyr (pacifists) ar y maes, sy'n beirniadu Prydain/America am fynd i ryfel yn erbyn Irac, Affganistan ac ati, tybed beth fyddai eu hagwedd yn ystod y 30au pan ddaeth y Nasis i rym yn yr Almaen?

A fyddech yn cefnogi Churchill a oedd o blaid ail-arfogi a gwrthod 'appeasement' ac roedd yn cael ei ystyried fel eithafwr?

A fyddech yn cyd-fynd a'r Blaid LLafur a oedd yn erbyn conscripsiwn mor ddiweddar a 1939 ac o blaid y 'Peace Pledge' sef 'Byddaf ddim yn ymladd dros gwlad a brenin'.

A fyddech yn cytuno efo Saunders Lewis pan ysgrifennodd nad oedd gwahaniaeth foesol rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a Hitler?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Sioni Size » Maw 06 Ion 2004 1:42 pm

Felly sut oedd Saddam am droi'n Hitler heb arfau, dan sancsiynau oedd yn dinistrio pob elfen o Irac heblaw'r arweinyddiaeth a'r UN yn ei fonitro'n drylwyr ers 1991?
A bedi hyn am ddatganiad Saunders? Ai honni wyt ti mai Prydain yw gwyn a Nazis yw du?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Ifan Saer » Maw 06 Ion 2004 1:50 pm

Sioni Size a ddywedodd:Felly sut oedd Saddam am droi'n Hitler heb arfau, dan sancsiynau oedd yn dinistrio pob elfen o Irac heblaw'r arweinyddiaeth a'r UN yn ei fonitro'n drylwyr ers 1991?


Doedd Misdar Hitler ddim angen 'arfau' i ddifa miloedd ar filoedd o Almaenwyr oedd yn digwydd bod yn Iddewon.

Dim neges o blaid rhyfel yw hon, dim ond codi pwynt.
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Mr Gasyth » Maw 06 Ion 2004 1:50 pm

Pogon, parato dy hun am sioc...
Anodd wrth gwrs yw trio dychmygu sut y byddai rhywyn wedi ymateb petai ni'n fyw 60 o flynyddoedd yn ol, ond o edrych yn 'retrospective' ar yr ail ryfel byd does gen i ddim amheuaeth fo Prydain wedi gwneud y peth iawn. Roedd Hitler yn was y diafol a'i fryd ar reoli Ewrop a'r byd. Roedd Prydain o dan fygythiad uniongyrchol i'w rhyddid felly yr unig beth i'w wneud oedd mynd i ryfel. Mae 'conscription' yn fater gwahanol, bydd raid i mi feddwl fwy am hynny.
Felly ti'n gweld Pogon, tydan ni gyd ddim yn heddychwyr un-llygeidiog. Dwi'n derbyn fod rhyfel yn angenrheidiol ac yn gyfiawn weithie.
Ond fel dwi di ddeud mewn edefyn arall, does dim cymhariaeth rhwng yr ail ryfel byd a rhyfel irac.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan nicdafis » Maw 06 Ion 2004 3:40 pm

Nid pawb sydd yn erbyn y rhyfel yn Irac yn heddychwr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Yr ail ryfel byd.

Postiogan Dylan » Maw 06 Ion 2004 5:30 pm

Boris a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:A fyddech yn cytuno efo Saunders Lewis pan ysgrifennodd nad oedd gwahaniaeth foesol rhwng yr Ymerodraeth Brydeinig a Hitler?


Wel, 'roedd ganddo bwynt am wn i.

'Roedd Saunders dal yn idiot cofia.


Oes modd i ti ymhelaethu fan hyn? Mae dy ddatganiad yn dweud pethau mawr felly fe ddylet gyfiawnhau y gosodiad neu jyst tynnu dy eiriau yn ôl.

Dwi chwaith ddim yn credu fod SL yn idiot. Anghywir, anghynnes hyd yn oed - oedd. Idiot - na.


Moesoldeb yn rhywbeth personol iawn felly mae'n uffernol o anodd i'w ddiffinio.

Er bod Stalin, er enghraifft, wedi bod yn gyfrifol am fwy o farwolaethau na Hitler, mae'n bosib gellir dweud bod Hitler yn 'waeth' yn foesol oherwydd 'roedd yn canolbwyntio ei ymdrechion ar fathau arbennig o bobl (Iddewon, hoywon, yr anabl ayyb). Tra 'doedd Stalin ddim yn gwahaniaethu llawer o ran hynny. 'Roedd jyst anghytuno ag o yn ddigon.

'Dw i ddim yn cymharu'r Ymerodraeth Brydeinig â'r Natsiaid, ond jyst pwyntio allan nad oedd y ffordd 'roedd mwyafrif y bobl a'u gormeswyd ddim yn cael eu trin yn gynnes iawn. 'Roedd hiliaeth yn cael ei ddefnyddio fel cyfiawnhad. 'Roedd y 'barbariaid anwaraidd' 'ma angen rhywun fel Prydain i gadw trefn. Ond o leiaf aethont nunlle'n agos at hil-laddiad. Felly 'roeddent yn 'debyg' i'r Natsiaid o ran y meddylfryd ''ryden ni'n well na'r rhain' ac eu trin fel pobl ail-ddosbarth, ond ddim yn agos i fod ar yr un raddfa, wrth gwrs. Os ydi hynny'n gwneud synnwyr.

Hwyrach bod galw SL yn 'idiot' ychydig yn gas. :D

ond 'roedd ganddo syniadau rhyfedd dros ben. Rhinweddau ffasgiol iawn yn ei feddylfryd. Wltra-genedlaetholgar, eisiau dad-ddiwydiannu Cymru ( :D ), gwrthod condemnio cyfundrefnau Ffasgaidd ar y cyfandir...

pethau felly. Athrylith, ond od. Ac anghywir.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Maw 06 Ion 2004 5:37 pm

Mi wnaeth Prydain y peth iawn yn erbyn y natsiaid. Nid smonach di bwynt fel yr Rhyfel Byd Cyntaf oedd o, ond rhyfel yn erbyn drwg roedd rhaid ei cwffio, a'i curo. Yr unig broblem oedd bod Prydain wedi gadael i Hitler fynd rhu bell cyn ymosod arno.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Yr ail ryfel byd.

Postiogan Owain Llwyd » Maw 06 Ion 2004 11:06 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:Gan fod sut gymaint o heddychwyr (pacifists) ar y maes, sy'n beirniadu Prydain/America am fynd i ryfel yn erbyn Irac, Affganistan ac ati, tybed beth fyddai eu hagwedd yn ystod y 30au pan ddaeth y Nasis i rym yn yr Almaen?

A fyddech yn cefnogi Churchill a oedd o blaid ail-arfogi a gwrthod 'appeasement' ac roedd yn cael ei ystyried fel eithafwr?

A fyddech yn cyd-fynd a'r Blaid LLafur a oedd yn erbyn conscripsiwn mor ddiweddar a 1939 ac o blaid y 'Peace Pledge' sef 'Byddaf ddim yn ymladd dros gwlad a brenin'.


Fel mae rhywun wedi dweud eisoes, mae'n amhosibl dweud yn bendant sut bysen ni heddiw wedi ymateb i'r sefyllfa.

Dw i'n rhyw feddwl byswn i wedi gwirfoddoli i wasanaethu efo'r non-combatant corps (gyrru ambiwlansys neu ddelio efo bomiau neu beth bynnag). (Yn y pen draw, dw i ddim yn heddychwr, ond dw i'n gwrthod bod gan y wladwriaeth awdurdod i orfodi neb i ladd rhywun arall pan fydd y wladwriaeth yn gweld yn dda, yn enwedig yn enw 'brenin a gwlad'.)

Hyd y gwela i, mae dy agwedd addolgar at Churchill dipyn yn fwy simplistig na hynny gei di gen nifer go lew o bobl oedd wedi cymryd rhan yn y rhyfel. Ar lefel bersonol, mi fydda i'n gweld 'nhaid yn amyneilio rhwng diawlio'r boi a'i amddiffyn o. Yn ystadegol, does ond angen sbio ar ganlyniadau etholiad '45 i weld bod yr etholwyr ddim yn gweld eu harweinydd yn wych i gyd.

O ran diddordeb, oes gen ti broblem gyffredinol efo heddychwyr neu bobl sy'n gwrthod ufuddhau yn slafaidd i'r llywodraeth neu'r farn boblogaidd neu beth bynnag? Hyd y gwela i, tasa mwy o Almaenwyr fatha Bonhoeffer neu'r Weisse Rose neu bwy bynnag wedi gwrthsefyll y Natsiaid, mi allsai pawb yn Ewrop fod wedi osgoi goblyn o strach - ond mi oedd y rheina yn heddychwyr neu yn bradychu'r achos cenedlaethol, felly digon posibl bysech di wedi cymeradwyo penderfyniad y wladwriaeth i'w dienyddio?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Sioni Size » Mer 07 Ion 2004 12:15 am

Oh! Arbennig Mr Llwyd, os gai ddeud.

Mae'r Natsiaid wedi gwneud ffafr enfawr a'r Prydeinwyr rhonc wrth fod yn waeth bogeymen na Phrydain. "Nid y ni yw'r gwaethaf!" gorfoleddant yn eu meddyliau. Dyna pam fod eu ymateb i feirniadaeth wastad yn dod yn ol i 'fysa well ganddoch chi Hitler?' yn y diwedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cardi Bach » Mer 07 Ion 2004 11:16 am

[Gobeithio fod yr edefyn yma yn dal i lifo'n rhwydd. Rwy wedi rhannu'r negeseuon am Saunders Lewis i wneud edefyn drafodaeth gwahanol yn benodol ar Syniadaeth Saunders. Mwynhewch.]
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai