Yr ail ryfel byd.

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cardi Bach » Mer 07 Ion 2004 11:30 am

Gynta at galon neges Pogon.
Nid yw pawb sydd yn rhannu dy farn di ar un peth yn mynd i rannu dy farn ar bopeth - treia ddeall hynny.
Heddychwr ydw i, ond bach iawn o aelodau eraill y Maes yma sydd wedi datgan eu bont yn heddychwyr. rhys Llwyd yn unig yw'r llall, am wn i.

Yn bersonol alla i ddim gweld cyfiawnhad i unrhyw ryfel.
Gafodd Hitler gario ymlaen ai gynlluniau ffiaidd am flynyddoedd ac awdurdodau Prydeinig yn gwybod am beth oedd e'n wneud.

Gellir fod wedi trin bygythiad Hitler llawer ynghynt.
Cyn fod unrhyw un yn dweud mai'r 'appeasers' olygodd fod Hitler wedi mynd mor bell, mae'n rhaid yn gyntaf edrych ar bolisiau Prydain (a gwledydd eraill) tuag at yr Almaen yn wreiddiol, a thuag at Hitler yn benodol, olygodd fod Hitler wedi cyrraedd y fath safle a sefyllfa. Os na fyddai pethau wedi siwtio Prydain, yna mae'n dra anhebygol y byddai llywodraeth Prydain wedi goddef Hitler cyhyd (yn yr un modd gweddill gwledydd Ewrop).

Dyna lle fi'n gyson yn dadlau nad ydym ni wedi dysgu o hanes ac fod yr un camgymeriadau yn cael eu gwneud.
Irac a Saddam - Isteddodd Prydain yn ol a rhanol arfogi Saddam gan wybod yn iawn beth oedd e'n neud. Dim ond pan oedd e'n bygwth materion economaidd Prydain (ac America ac eraill) y penderfynodd y 'coalishwn' i ymyrryd. felly gyda jyst a bod pob rhyfel - hunanol llwyr yw'r cymhellion. Felly peidied neb ag esgus mai er lles eraill mae e.

Yn yr un modd y Rhyfel Byd Cyntaf - Prydain yn mynd mewn i warchod cenhedloedd Bychain (Belg) tra mai Prydain oedd yr ymerodraeth fwyaf gyda llu o genhedloedd bychain yn cael eu gorfodi i roi eu chyfoeth a'i phobl i ymladd eu rhyfeloedd - rhagrith.

Arian, a hunanoldeb a balchder - oll ynghlwm - yw gwraidd drygioni a felly rhyfeloedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Mr Gasyth » Mer 07 Ion 2004 1:40 pm

Pwyntiau teg Cardi, does neb yn mynd i ryfel er lles eraill. Ond yn y pen draw fyddet ti'n dweud fod Prydain wedi bod yn iawn i fynd i ryfel yn erbyn Hitler er ei lles ei hun yntau fyddai wedi bod yn well i adael iddo gymeryd drosodd Ewrop gyfan?
Gwell hwyr na hwyrach?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Boris » Mer 07 Ion 2004 7:01 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Yn bersonol alla i ddim gweld cyfiawnhad i unrhyw ryfel.


Heddychwr pur felly? Beth am Weriniaeth Sbaen yn erbyn Franco? Beth am Tito yn erbyn Natsiaid? Beth am y Ffindir yn erbyn y fyddin goch yn 1940? Beth am y Warsaw rising? Ti'n gor-ddweud falle?

Cardi Bach a ddywedodd:Gafodd Hitler gario ymlaen ai gynlluniau ffiaidd am flynyddoedd ac awdurdodau Prydeinig yn gwybod am beth oedd e'n wneud.


Rant gwrth brydeinig (Seisnig?) sydd heb sail hanesyddol. Pa gynlluniau ffiaidd sydd dan sylw yn fan hyn? Lle mae dy dystiolaeth?

Cardi Bach a ddywedodd:Gellir fod wedi trin bygythiad Hitler llawer ynghynt.
Cyn fod unrhyw un yn dweud mai'r 'appeasers' olygodd fod Hitler wedi mynd mor bell, mae'n rhaid yn gyntaf edrych ar bolisiau Prydain (a gwledydd eraill) tuag at yr Almaen yn wreiddiol, a thuag at Hitler yn benodol, olygodd fod Hitler wedi cyrraedd y fath safle a sefyllfa. Os na fyddai pethau wedi siwtio Prydain, yna mae'n dra anhebygol y byddai llywodraeth Prydain wedi goddef Hitler cyhyd (yn yr un modd gweddill gwledydd Ewrop).


Fuzzy history Cardi. Be ti'n ddweud yw;

a) dylid fod wedi trin yr Almaen yn gynt ond bai pawb arall oedd o beth bynnag
b) sut ti'n 'trin' Hitler os di bob rhyfel yn 'wrong'? Gofyn yn neis iddo fo fihafio?

Dwi di trafod y cwestiwn o pam cafwyd WW2 mewn edefyn arall (efo Rhys Llwyd dwi'n meddwl felly na'i ddim ail adrodd fy nadleuon, ond mae dy sylwadau uchod yn 'drafesti' o hanes.

Cardi Bach a ddywedodd:Dyna lle fi'n gyson yn dadlau nad ydym ni wedi dysgu o hanes ac fod yr un camgymeriadau yn cael eu gwneud.


Dwi ddim yn credu y byddwn yn pregethu am wersi hanes pan mae dy hanes yn amlwg yn 'wrong'.

Cardi Bach a ddywedodd:Irac a Saddam - Isteddodd Prydain yn ol a rhanol arfogi Saddam gan wybod yn iawn beth oedd e'n neud. Dim ond pan oedd e'n bygwth materion economaidd Prydain (ac America ac eraill) y penderfynodd y 'coalishwn' i ymyrryd. felly gyda jyst a bod pob rhyfel - hunanol llwyr yw'r cymhellion. Felly peidied neb ag esgus mai er lles eraill mae e.


Dwi'n amheus y byddai poblogaeth Kuwait yn cytuno efo ti, wedi'r cyfan ymosodiad Irac ar wlad fechan oedd y rheswm dros Gulf War 1. Mae barn pobl Irac hefyd yn gyson yn dangos fod cwymp Saddam yn fater sydd wedi cael croeso, felly hunanol llwyr? Gor ddweud braidd falle?

Cardi Bach a ddywedodd:Yn yr un modd y Rhyfel Byd Cyntaf - Prydain yn mynd mewn i warchod cenhedloedd Bychain (Belg) tra mai Prydain oedd yr ymerodraeth fwyaf gyda llu o genhedloedd bychain yn cael eu gorfodi i roi eu chyfoeth a'i phobl i ymladd eu rhyfeloedd - rhagrith.


Rhagrith falle, ond penderfyniad cywir serch hynny. Dwi hefyd yn credu dy fod yn barnu 1914 efo safonau 2004. Roedd Gwlad Belg yn gymydog Ewropeaidd a ddaeth i fodolaeth yn 1830 fel modd o gadw heddwch rhwng Ffrainc a Prwsia. Roedd yr Almaen yn ymwybodol fod Prydain yn gwarantu amddiffyn Gwlad Belg, felly pwy oedd yn gyfrifol am WW1? Prydain am sticio at gytundeb rhyngwladol oedd yn adnabyddus ta Ymerodraeth yr Almaen am ymosod ar Wlad Belg? Rhagrith yw ymddangos yn rhesymol tra'n defnyddio darnau o hanes yn unig i barhau dy agenda wrth Seisnig

Cardi Bach a ddywedodd:Arian, a hunanoldeb a balchder - oll ynghlwm - yw gwraidd drygioni a felly rhyfeloedd.


Gwraidd drygioni - cytuno 100%

Gwraidd pob rhyfel? Dwi ddim yn meddwl, beth am rhyfel Cartref America? Achos cyfiawn iawn ddywedwn i, felly hefyd rhyfel Cartref Lloegr.

Os ti'n heddychwr 100% yna dwi'n parchu dy farn, ond be ti di neud yn fan hyn yw datgan ystrydeb ar sail dy heddychiaeth ac wedyn cyflwyno dadl sydd mwy na heb yn rant yn erbyn Prydain / UDA. Unwaith yn rhagor, ffug resymoldeb yn cuddio agenda (digon hyll) o wrth Seisnigrwydd a gwrth Americaniaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Mr Gasyth » Iau 08 Ion 2004 8:55 am

Boris a ddywedodd:Gwraidd pob rhyfel? Dwi ddim yn meddwl, beth am rhyfel Cartref America? Achos cyfiawn iawn ddywedwn i, felly hefyd rhyfel Cartref Lloegr.


Onid er mwyn gwneud arian oedd pobl yn cadw caethweision?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Boris » Iau 08 Ion 2004 9:58 am

Aled a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Gwraidd pob rhyfel? Dwi ddim yn meddwl, beth am rhyfel Cartref America? Achos cyfiawn iawn ddywedwn i, felly hefyd rhyfel Cartref Lloegr.


Onid er mwyn gwneud arian oedd pobl yn cadw caethweision?


Ond y gogledd aeth ryfel yn erbyn y de. Fe allen nhw fod wedi gadael i'r Confederacy fynd ei ffordd ei hunain, ond oherwydd cryfder y teimladau doedd hynny ddim yn dderbyniol, felly aeth y gogledd i ryfel. Pa fantais economaidd iddynt hwy?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Mr Gasyth » Iau 08 Ion 2004 11:20 am

Aeth y gogledd i ryfel yn erbyn y de am fod taleithiau'r de wedi ceisio torri i ffwrdd, nid am eu bod yn cadw caethweision. Byddai colli taleithiau'r de wedi bod yn ergyd drom i economi taleithiau'r gogledd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Boris » Iau 08 Ion 2004 1:23 pm

Aled a ddywedodd:Aeth y gogledd i ryfel yn erbyn y de am fod taleithiau'r de wedi ceisio torri i ffwrdd, nid am eu bod yn cadw caethweision. Byddai colli taleithiau'r de wedi bod yn ergyd drom i economi taleithiau'r gogledd.


Dwi ddim yn cytuno.

Darllena lyfr Jerry Hunter ac unrhyw hanes o'r rhyfel, y gwir oedd fod budd economaidd y Gogledd yn y De yn fach iawn. Yn y bon, ers 1845 Caethwasiaeth oedd asgwrn y gynnen rhwng y taliaethau rhydd a thaliaethau caeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Dylan » Iau 15 Ion 2004 9:39 pm

Onid y de daniodd yr ergydion cyntaf? ('dw i ddim yn siwr)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Boris » Gwe 16 Ion 2004 12:37 pm

Dylan a ddywedodd:Onid y de daniodd yr ergydion cyntaf? ('dw i ddim yn siwr)


Ia dwi'n meddwl, ond y Gogledd wnaeth ddatgan rhyfel yn erbyn y rebels.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Cardi Bach » Gwe 16 Ion 2004 1:23 pm

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Yn bersonol alla i ddim gweld cyfiawnhad i unrhyw ryfel.


Heddychwr pur felly? Beth am Weriniaeth Sbaen yn erbyn Franco? Beth am Tito yn erbyn Natsiaid? Beth am y Ffindir yn erbyn y fyddin goch yn 1940? Beth am y Warsaw rising? Ti'n gor-ddweud falle?


Gorddweud? Gorddweud beth? Fi yn erbyn rhyfel a lladd. ffwl stop.

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Gafodd Hitler gario ymlaen ai gynlluniau ffiaidd am flynyddoedd ac awdurdodau Prydeinig yn gwybod am beth oedd e'n wneud.


Rant gwrth brydeinig (Seisnig?) sydd heb sail hanesyddol. Pa gynlluniau ffiaidd sydd dan sylw yn fan hyn? Lle mae dy dystiolaeth?

Ie, Boris, cwestiynna punnai yw e'n wrth Seisnig gyment ti ishe os yw e'n dy siwto, ond dyle ti o bawb allu weld mai gwrdd imperialydd a gwrth ymerodraeth ydw i. Mae tystiolaeth bellach yn dangos fod Prydain yn gwybod am gynlluniau arfau yr Almaen mor bell nol ag 1934. Roedd Prydain hefyd yn gwybod am gynlluniau Hitler i gipio Tsiecoslofacia 7 mis cyn iddo wneud hynny - a hynny yn ol tystiolaeth a ryddhawyd o'r cyfnod yn '99. Roedd awdurdodau Prydeinig ac Americanaidd yn ymwybodol o gynlluniau Hitler i'r Iddewon yn 1940 wedi i diplomyddwr o Chile adael y wybodaeth allan yn ddamweiniol (oedd yn gweithio yng ngwlad Tsiec os ydw i'n cofio'n iawn, ac yn eulyn addoli'r Natsiaid). Yn yr un modd daeth Hess draw i Brydain i drafod heddwch, yn ol yr hanesydd Allen, ond fod brwydyr yr Almaen yn erbyn Rwsia o ddefnydd i Brydain, ac felly carcharwyd Hess - is Furher y Trydydd Reich.

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Gellir fod wedi trin bygythiad Hitler llawer ynghynt.
Cyn fod unrhyw un yn dweud mai'r 'appeasers' olygodd fod Hitler wedi mynd mor bell, mae'n rhaid yn gyntaf edrych ar bolisiau Prydain (a gwledydd eraill) tuag at yr Almaen yn wreiddiol, a thuag at Hitler yn benodol, olygodd fod Hitler wedi cyrraedd y fath safle a sefyllfa. Os na fyddai pethau wedi siwtio Prydain, yna mae'n dra anhebygol y byddai llywodraeth Prydain wedi goddef Hitler cyhyd (yn yr un modd gweddill gwledydd Ewrop).


Fuzzy history Cardi. Be ti'n ddweud yw;

a) dylid fod wedi trin yr Almaen yn gynt ond bai pawb arall oedd o beth bynnag
b) sut ti'n 'trin' Hitler os di bob rhyfel yn 'wrong'? Gofyn yn neis iddo fo fihafio?

Finne wedi trafod hyn mewn edefyn arall gyda thi.

Boris a ddywedodd:Dwi di trafod y cwestiwn o pam cafwyd WW2 mewn edefyn arall (efo Rhys Llwyd dwi'n meddwl felly na'i ddim ail adrodd fy nadleuon, ond mae dy sylwadau uchod yn 'drafesti' o hanes.

Trafesti o hanes sydd ddim yn cyd-fynd a'r ffordd wyt ti'n lico gweld y byd
Ti o'r farn fod rhyfel, weithiau, yn angenrheidiol. Fi ddim. Oes syndod ein bod ni'n anghytuno felly ar bwyntiau hanesyddol sydd wedi eu dethol a'u dewis i gyd-fynd a'n cred?
Yn sylfaenol mae'r hyn wyt ti'n ddweud yn golygu lladd miliynnau o bobl - y mwyafrif yn ddiniwed - ermwyn delio ag un dyn. Lojic od iawn i fi.

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Dyna lle fi'n gyson yn dadlau nad ydym ni wedi dysgu o hanes ac fod yr un camgymeriadau yn cael eu gwneud.


Dwi ddim yn credu y byddwn yn pregethu am wersi hanes pan mae dy hanes yn amlwg yn 'wrong'.
:rolio: Wyt ti dy hunan yn rilo mas propoganda fel efengyl, ac yn ddigon sarhaus a dirmygus i wawdio unrhyw un sy'n anghytuno a'th fersiynnau, neu gasgliadau. O ddarllen llyfrau ar y pwnc, er sawl blwyddyn yn ol, alla i ddim derbyn dy feirniadaeth. Vice versa gyda ti gleu.

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Irac a Saddam - Isteddodd Prydain yn ol a rhanol arfogi Saddam gan wybod yn iawn beth oedd e'n neud. Dim ond pan oedd e'n bygwth materion economaidd Prydain (ac America ac eraill) y penderfynodd y 'coalishwn' i ymyrryd. felly gyda jyst a bod pob rhyfel - hunanol llwyr yw'r cymhellion. Felly peidied neb ag esgus mai er lles eraill mae e.


Dwi'n amheus y byddai poblogaeth Kuwait yn cytuno efo ti, wedi'r cyfan ymosodiad Irac ar wlad fechan oedd y rheswm dros Gulf War 1. Mae barn pobl Irac hefyd yn gyson yn dangos fod cwymp Saddam yn fater sydd wedi cael croeso, felly hunanol llwyr? Gor ddweud braidd falle?

Na. Odi ma pobl Irac yn croesawi cwymp Saddam, ond ma nhw hefyd yn ymladd yn erbyn yr occupiers presenol. Byddan nhw'n croesawi cael gwared o rym a dylanwad allanol yr Amerig a Phrydain hefyd.

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Yn yr un modd y Rhyfel Byd Cyntaf - Prydain yn mynd mewn i warchod cenhedloedd Bychain (Belg) tra mai Prydain oedd yr ymerodraeth fwyaf gyda llu o genhedloedd bychain yn cael eu gorfodi i roi eu chyfoeth a'i phobl i ymladd eu rhyfeloedd - rhagrith.


Rhagrith falle, ond penderfyniad cywir serch hynny. Dwi hefyd yn credu dy fod yn barnu 1914 efo safonau 2004. Roedd Gwlad Belg yn gymydog Ewropeaidd a ddaeth i fodolaeth yn 1830 fel modd o gadw heddwch rhwng Ffrainc a Prwsia. Roedd yr Almaen yn ymwybodol fod Prydain yn gwarantu amddiffyn Gwlad Belg, felly pwy oedd yn gyfrifol am WW1? Prydain am sticio at gytundeb rhyngwladol oedd yn adnabyddus ta Ymerodraeth yr Almaen am ymosod ar Wlad Belg? Rhagrith yw ymddangos yn rhesymol tra'n defnyddio darnau o hanes yn unig i barhau dy agenda wrth Seisnig

Gad hi mas was. Dim agenda gwrth Seisnig, a ddylet ti wbod hynny'n iawn.
Yr unig beth wyt ti'n brofi yma yw dy eulyn-addoiaeth di o'r ymerodraeth Brydeinig - ti'n gyson yn amddiffyn penderfyniadau'r ymerodraeth ac i weld fel nad wyt yn credu eu bont eriod wedi neud cam o'i le, ac fod popeth yn gyfiawn. Bai pawb arall yw popeth. Wel, Boris, ti'n rong. Mond ploi i wthio dy agenda pro-Brit/Anglo-Americanaidd a gwrth pobloedd y byd yw hyn. Ti'n gneud dim ond dethol a dewis dy hanes dy hunan. Am un pert i siarad.

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Arian, a hunanoldeb a balchder - oll ynghlwm - yw gwraidd drygioni a felly rhyfeloedd.


Gwraidd drygioni - cytuno 100%

Gwraidd pob rhyfel? Dwi ddim yn meddwl, beth am rhyfel Cartref America? Achos cyfiawn iawn ddywedwn i, felly hefyd rhyfel Cartref Lloegr.

Os ti'n heddychwr 100% yna dwi'n parchu dy farn, ond be ti di neud yn fan hyn yw datgan ystrydeb ar sail dy heddychiaeth ac wedyn cyflwyno dadl sydd mwy na heb yn rant yn erbyn Prydain / UDA. Unwaith yn rhagor, ffug resymoldeb yn cuddio agenda (digon hyll) o wrth Seisnigrwydd a gwrth Americaniaeth.


Eto, alla i ddim gweld sut bod modd cyfiawnhau lladd miliynnau o bobl. Wy ddim yn derbyn yn llwyr mai er lles rhyddhau caethweision oedd rhyfel cartref America, ond hyd yn oed o dderbyn hynny, syniadaeth ffiaidd ydyw. Mae un arall ar y Maes yma wedi traddodi syniadau ffiaidd, ond nid ei ladd yw'r ateb. Ac am y trydydd tro yn dy neges ti'n dweud mai agenda gwrth Seisnig sydd gennyf i - wyt ti'n credu o weud rhwbeth ddigon aml dy fod ti am gonfinso dy hunan ac eraill ei fod yn wir? Trist iawn, feri sad.
Tria weud Beetlejuice dairgwaith yn olynnol i weld beth fydd yn digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron