Rhywun di cael hwn eto? Mae'n warth a deud y lleia. Dim y ffaith ei fod wedi troi'n rhyw biws golau pansiaidd sy'n fy neud i'n flin, ond sut mae'r cymraeg yn cael ei ddefnyddio arni.
Mae'r Cymraeg yna, ac i'w weld yn ramadegol gywir (yn wahanol i fy ysgrifen i, sori ) ond mae'n edrych fel hyn:
The Phone Book Y Llyfr Ffôn
North West Wales Y Gogledd Orllewin
Ac felly ymlaen ar y dudalen ffrynt. Mae'r Cymraeg yn llai o faint na'r Saesneg pob tro. Mae'n edrych i fi fel eu bod wedi anghofio am y Gymraeg, yna wedi cofio amdano ar y funud ola a wedi gwasgu'r Gymraeg i ble bynnag oedd on ffitio.
(sori os ma rhywun di trafod hyn o'r blaen)