Aled a ddywedodd:Beth am glwb cerdded maes-e unrhywun? Ma'r clybiau cerdded y gwn i amdanyn nhw i gyd ar gyfer bobl 'hyn'.
Ella 'mod i braidd yn drist/meudwyaidd, ond at ei gilydd mae'n well gen i gerdded ar ben fy hun.
Er ei bod yn braf cael cwmpeini weithiau wrth gwrs, mi rydych hefyd yn amsugno llai o'r awyrgylch a'r golygfeydd, gan eich bod yn aml yn rhy brysur yn sgwrsio/malu cachu, neu'n ymdrechu'n lew i beidio â gadael i'r person arall achub y blaen.