A fi yw’r unig un sydd wedi cael llond bol o grwpiau efo rhyw enwau di-iaith cachlyd, be uffar sydd yn mynd ymlaen. Bron fod y tueddiad yma wedi arwain at cenhedlaeth o fandiau efo enwau sydd yn golygu dim. Be mae haneswyr yn mynd i feddwl wrth edrych yn ol ar y cyfnod yma ?
“Mmm roedd Ieuenctid y dydd wedi llyncu’r propaganda dwyieithrwydd yna yn gyfangwbwl, y ffyliaid !” e.e.
Be sy’n bod ar gael enwau Cymraeg gwreiddiol (Yr Angladd Hapus, Ffrwchnedd Nain neu’r Hoywon Melyn e.e.)? A oes yna unrhyw hyder ar ôl ynddo ni fel siaradwyr Cymraeg ? Ia siaradwyr Cymraeg, nid pobl dwyieithog, allaf siarad Ffrangeg a Sbaeneg hefyd ond Cymraeg yw fy iaith gyntaf, a hoffwn weld sin Gymraeg !
Mae gen pawb yr hawl i ddefnyddio unrhyw iaith a mynnent, (er nad yw mor ddu a gwyn a hynny oherwydd pwysa sydd arnom i gyd i gydymffurfio a siarad Saesneg) ond beth am ddangos bach o barch i’r Gymraeg a hunan barch fel siaradwyr Cymraeg.
Edrychaf ymlaen i ymateb ddamiol gan lwyth o “librals dwyieithog”.