Fy honiad i yn erbyn America, Ret, yw eu bod ar y gorau'n ystyried bywydau pobl eraill yn amherthnasol wrth gyrraedd eu nod o Full Spectrum Dominance.
A gan fod bywydau yn amherthnasol i'r nod, mae'n gwneud synnwyr ar rai adegau i ddinistrio a malu strwythur gwlad neu i ladd llawer o bobl er mwyn gwneud hi'n haws. Wrth greu dychryn a dinistrio strwythurau cynnal bywyd megis dwr, ysbytai, bwyd, pontydd nid yw'r wlad honno wedyn yn medru amddiffyn ei hun mor drylwyr, yn ysbrydol na'n gorfforol. Fe gymrodd hi dros ddeg mlynedd o sicrhau'r sefyllfa yma'n Irac, yn cynnwys sicrhau drwy'r arolygwyr nad oedd gan Irac yr arfau i fedru amddiffyn eu hunain.
Ar adegau eraill mae angen testio'r arfau gwych newydd, er mwyn profi i'w hunain pa mor eithriadol o glyfar yr ydyn nhw. Cafodd llond ystafell danddaearol o ferched, plant a hen bobl eu lladd gan fom 'precision', oedd mor wych fel fod y taflegryn yn medru cael ei arwain drwy 'air vent' er mwyn cyrraedd at y bobl.
Fedri di honni mai damwain oedd hynny?
February 13 1991- Gulf War: Two laser-guided "smart bombs" destroy an underground bunker in Baghdad killing hundreds of Iraqis.
http://news.bbc.co.uk/onthisday/hi/date ... 541107.stm
os wyt ti eisiau gwybod mwy.
Y farchnad yn Belgrad olau dydd? Embasi'r Tseiniaid cocky ym Melgrad? 8000 Somalia adeg 'Black Hawk Down'? 5000 Panama wrth geisio arestio Noriega am fod o'n gwrthod gwneud beth oedd y CIA yn ei orchymyn? Wyt ti eisiau mwy o enghreifftiau?
Damweiniol Ret?