gan Ifan Saer » Maw 27 Ion 2004 4:54 pm
Hogia go iawn
Bryn Fon yn cyflwyno rhaglen yn chwilio am rai fatha fo - y hogia' go iawn. Troi allan nad ydio'n ffindio dim. Neb cweit fel fo, eniwe.
Bys a Bawd
Rhaglen i'r wraig ty, yn dangos pethau creadigol i'w gwneud efo...bys a bawd! Angharad Mair yn cyflwyno.
Chwarel yn troi'n chwerw
Bryn Fon yn hel atgofion am ei blentyndod yn y chwarel, nol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Caryl Parry Jones yn diweddaru ei chlasur fel thîm tiwn i Bryn.
"mae'r chwarel yn troi'n chwerw, mae Bryn yn troi'n sur.."
Slacio
Rhaglen ddogfen ddiddorol am bobol dôl Cymru. Angharad Mair yn cyflwyno, ac yn cael ei yp-stejio gan y dôlis, sydd mor dda eu bod yn haeddu cyfres eu hunan...
Dros Fryn a Dôl
Dim ond un peth sydd yn sefyll yn ffordd y dôlis a'u cyfres newydd - Bryn Fon. Cyfres gyfa yn dilyn eu brwydr waedlyd. Ffeinal i'w ddyfarnu gan y cyhoedd drwy bleidlais ffôn.
Y Cofis wyr y cyfan