gan sbesh » Maw 03 Chw 2004 5:38 pm
ie,wrth gwrs bod angen gweithredu yn erbyn y llywodraeth ma. O'n i'n sefyll reit wrth ochr Nick Brown pan wnaeth e'r datganiad bod e'n cefnogi'r Llywodraeth ar ddydd mawrth dwetha, a wedodd e 'I must go to write my speech. It's a very taxing time for me'!!!!!! whatever. odd protestio mawr yn Llundain, ond cafodd hynny mo sylw oherwydd y sosialists eithafol odd o, ac mae NUS yn rhy barchus i brotestio yn erbyn dim nawr( Mandy Telford tawel ar Question Time, aelod o Lafur..oes angen gweud mwy.....)
mae'r holl sefyllfa yn hurt, a rhaid ystyried hyn- ni'n dadlau am arian fan hyn, dadlau am diffyg grantiau i'r tlawd,ond be sy angen yw i newid cymdetihas yn gyfan gwbl. Dyle na ddim fod sector mawr o bobl 'tlawd' ym Mhrydain i ddadlau yn eu cylch ta beth. Y baich sydd ar y llywodraeth nawr, gan mai nhw sydd yn achosi problemau'r tlawd- diffyg cyflogaeth, diffyg cyfleuon gwaith, diffyg cwmniau o Gymru, diffyg trefn yn gyffredinol, diffyg egwyddorion sylfaenol sosialaidd cymunedol.
waeth i ni beidio cefnogi'r toris chwaith. Ma nhw yn hollol o blaid system marchnad i addysg, ac roedd gwrthwynebu y mesur yn ymosodiad ar Llafur a Blair yn bersonol.
Mae national shut down ar Chwefror 25- mwy o brotestio weda i. Dyw Lobio jyst ddim yn gweithio.
'Don't be in a hurry to condemn because he doesn't do what you do or think as you think or as fast. There was a time when you didn't know what you know today.'
Malcolm X