Boris a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:what we've been told by one of the senior officials in charge of drawing up that dossier was that, actually the government probably erm, knew that that forty five minute figure was wrong, even before it decided to put it in.
Yr uchod yw'r broblem - ac mae AG wedi derbyn nad oedd yr honiad fod y llywodraeth yn gwybod fod y mater 45 munud yn anghywir wedi dod trwy David Kelly nac neb arall. Celwydd ta cangymeriad?
Ta waeth, y pwynt dwi'n meddwl yw fod cangymeriad AG a'r modd y bu i'r BBC amddiffyn y stori agor y drws i fobl (megis cyfranwr OTT Fox news) gyhuddo y BBC o ddweud celwydd
Hwn sydd yn ddiddorol.
Hwn yw testun yr holl drafferth.
Ma'r llywodreth a Campell wedi bod yn hynod lwyddiannus a chyfrwys iawn yma. Darllennwch ddyfyniad Gilligan eto.
Mae'r llywodraeth, a'r wasg wedi llyncu yr abwyd, wedi llwyddo mynd ar ol y darn mwya di-bwys yn y dyfyniad, tra fo ergyd y dyfyniad yn ffeithiol gywir.
"what we've been told by one of the senior officials in charge of drawing up that dossier"
dyma gelwydd Gilligan. A dyma mae'r llywodraeth wedi mynd ar ei ol ac mae'r wasg yn ddiarwybod yn dilyn, ond
"actually the government probably erm, knew that that forty five minute figure was wrong, even before it decided to put it in"
mae hyn, sef fel y dywedais ergyd y dyfyniad, yn ffeithiol gywir. Mae Hoon wedi cyfaddef - aelod o'r llywodraeth - ac mi roedd Campell yn gwybod (wele dystiolaeth Dylan uchod), felly mi roedd y Llywodraeth yn gwybod.
Fel newyddiadura, roedd Gilligan wedi dod i'r casgliad cywir yma, ond heb dystiolaeth gadarn iw roi mewn pwt newyddion dwy funud - ond mi roedd e'n gywir. Nawr gallwn ni fynd mlan hyd syrffed felly am y diffygion i gefnogi'r farn yma a brofwyd yn ffaith, ond mae hynny, yn union fel Hutton, yn tynnu'r sylw oddi ar Y pwynt, sef celwydd y Llywodraeth.
Iawn, ma Dyke, Davies a Gilligan wedi mynd - a wneith y cyfryngau ganolbwyntio ar y gwir newyddion, sef fod y llywodraeth yn dweud celwyddau? Ddim tra fod FOX news ac eraill yn mynnu amddiffyn y llywodraeth drwy eu helpu i dynnu'r pwysau oddi arnynt.