Swyddi

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan DAN JERUS » Mer 11 Chw 2004 12:27 pm

Dwi'n meddwl fod y rhan fwyaf o fobl sydd wedi graddio, os nad wy ti'n un o'r lleiafrif sy'n cael eu headhuntio neu'n mynd syth i swydd, yn cyrraedd rhyw fath o groesffordd gyrfaol.Mewn byd delfrydol, wrth gwrs, ni fyddai neb yn gorfod gadael Cymru, ac mi fyddai'r wlad yn llawn o fobl talentog y gwneud gwaith da i'r wlad drwy weithio a chyfrannu iddi ymhob ffordd. Mewn gwirionedd fodd bynnag, ac am ba bynnag reswm, ni all Cymru (yn bresennol o leiaf) gynnig popeth i pawb.Mae llawer o fobl felly yn cael swyddi nag ydynt ddim angen, sydd ddim ond y troi fynnu am y paycheck ac yn gwneud job half arsed o'i herwydd.Mae mwy iddi felly na aros yng nghymru gan dy fod yn teimlo'r ddyletswydd i wneud.Rwy'n credu'n gryf y ddylai pawb geisio defnyddio eu donniau er lles ac er balchder eu gwlad, p'le bynnag mae'r swydd yn mynd a chwi.A phwy a wyr, drwy deithio a gweithio mewn rhannau eraill o'r wlad, mae'n bosib i rhywun ddysgu rhywbeth a fyddai o fudd i Gymru-y thinking outside the bocs 'ma fel mae'r saeson yn ddweud.Mae rhyw ddaioni yn hynny, siawns?
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Lowri Fflur » Mer 11 Chw 2004 12:35 pm

Dwi' m yn really deall pam bod pobl yn meddwl bod byw yn Loegr yn syniad da i addysgu pobl Lloegr am ein hiaith a diwylliant achos dio' m really yn ots beth mae pobl yn feddwl ohona ni.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan DAN JERUS » Mer 11 Chw 2004 12:51 pm

Pwynt diddorol Lowri, felly ti'n dweud nag ydio bwys be mae pobl eraill yn feddwl ohonnom? surely sa ti'n lecio iddyn nhw ein gweld ni fel gwlad gadarn, hyderus sy'n ymfalchio yn ein diwylliant an iaith? ai ddim y gallu i ganu clod am dy wlad i wledydd eraill yw prif nod unrhyw wlad-garwr?

Lowri Larsen:
Dwi' m yn really deall pam bod pobl yn meddwl bod byw yn Loegr yn syniad da i addysgu pobl Lloegr am ein hiaith a diwylliant


Pam ddim? mae'n mynd ffordd pell iw hargyhoeddi nhw amdanom, yn lle eu bod yn mynd yn ol y sterioteips twp o shagwyr defaid a pobl hiliol.Waeth inni heb a chwyno agyrru death threats wedyn i selebs lloegr pan mae nhw'n cael go arnom, ac yn cwyno nad ydynt yn ein gwir adnabod. (a la, anne robinson, aa gill au tebyg) a cofia fod symud i rhywle arall, weithiau, yn rhoi'r gallu iti edrych mewn ffordd gwahannol, buddiol i dy wlad
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Lowri Fflur » Mer 11 Chw 2004 2:00 pm

DAN JERUS a ddywedodd:Pwynt diddorol Lowri, felly ti'n dweud nag ydio bwys be mae pobl eraill yn feddwl ohonnom? surely sa ti'n lecio iddyn nhw ein gweld ni fel gwlad gadarn, hyderus sy'n ymfalchio yn ein diwylliant an iaith? ai ddim y gallu i ganu clod am dy wlad i wledydd eraill yw prif nod unrhyw wlad-garwr?

Lowri Larsen:
Dwi' m yn really deall pam bod pobl yn meddwl bod byw yn Loegr yn syniad da i addysgu pobl Lloegr am ein hiaith a diwylliant


Pam ddim? mae'n mynd ffordd pell iw hargyhoeddi nhw amdanom, yn lle eu bod yn mynd yn ol y sterioteips twp o shagwyr defaid a pobl hiliol.Waeth inni heb a chwyno agyrru death threats wedyn i selebs lloegr pan mae nhw'n cael go arnom, ac yn cwyno nad ydynt yn ein gwir adnabod. (a la, anne robinson, aa gill au tebyg) a cofia fod symud i rhywle arall, weithiau, yn rhoi'r gallu iti edrych mewn ffordd gwahannol, buddiol i dy wlad


Ia dwi' n deall bod o' n gwneud i chdi dy hun yn bersonol werthfawrogi dy wlad a dy iaith am dy fod oddi cartref. Y peth mwyaf pwysig ydi ein bod ni yn gweld ein hunain fel gwlad gadarn hyderus a neith gweddill y byd sbio ana ni fela wedyn.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan DAN JERUS » Mer 11 Chw 2004 2:20 pm

Lowri Larsen:
Y peth mwyaf pwysig ydi ein bod ni yn gweld ein hunain fel gwlad gadarn hyderus a neith gweddill y byd sbio ana ni fela wedyn.


Cytuno. sgen ti awgrymiadau ar sut i wneud hynny ta Lowri?
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan RET79 » Mer 11 Chw 2004 8:33 pm

lowri larsen a ddywedodd:Dwi' m yn really deall pam bod pobl yn meddwl bod byw yn Loegr yn syniad da i addysgu pobl Lloegr am ein hiaith a diwylliant achos dio' m really yn ots beth mae pobl yn feddwl ohona ni.


Cytuno. Sgen 99.9% ohonynt ddim diddordeb o gwbl. Gwastraff amser. Gad nhw feddwl beth licia nhw, gan dyna beth wnawn nhw beth bynnag. Y broblem sylfaenol yw nad oes gan Saeson syniad am Gymru, ein hanes a diwylliant, dim byd. Yr unig rai a ryw wybodaeth o'm mhrofiad i yw'r rhai sydd wedi bod ar wyliau yng Nghymru... ond mae lot o nhw wedi bod i Butlins...
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Mer 11 Chw 2004 8:36 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Ar ol gwario bron iawn ugain mlynedd o fewn system addysg, lle mae targedau yn glir a rydych gyda rhywfath o syniad pa ffordd rydych yn cymeryd, mae'n anodd i rai i gynefino gyda'r bywyd gwaith.


Mae lot o wirionedd yn hyn. Dwi'n dod i'r casgliad ar ol bron i 3 blynedd o brofiad nad yw gweithio mewn offis o flaen PC trwy'r dydd i fi. A mae nhw'n malu cachu lot am offis skills, dyw rheiny ddim yn anodd o gwbl, common sens. Mae lot fawr o falu cachu mewn offis, y sgil smartaf i'w ddysgu yw sut i wneud cyn lleied o waith bosib heb i neb dy gyhuddo o fod yn ddiog. Erbyn hyn dwi wedi dysgu amryw o driciau...

Gen i agwedd eitha negyddol o'r office culture i fod yn onest. Dim rhagfarn, ond profiad, sydd wedi dod a mi i'r casgliad yna.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Lowri Fflur » Mer 11 Chw 2004 9:03 pm

Be di' r triciau yma RET?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Mer 11 Chw 2004 9:19 pm

lowri larsen a ddywedodd:Be di' r triciau yma RET?


o mae nhw'n hen fel pechod
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Lowri Fflur » Mer 11 Chw 2004 10:34 pm

C' m on duda- dwi' n siwr bod fi heb eu clywed o' r blaen.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron