Edefyn Cyfieithu

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Edefyn Cyfieithu

Postiogan Geraint » Gwe 13 Chw 2004 12:00 pm

Allai ddimm gweld edefyn lle all pobl ofyn am gymorth i gyfieithu termau/geriau.
Felly dyma un i ddechrau!:

Area not contested

Diolch yn fawr iawn
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 13 Chw 2004 12:06 pm

Cyd-destun? Ai ardal neu faes a olygir wrth 'area'?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint » Gwe 13 Chw 2004 12:09 pm

Ardal o dir
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 13 Chw 2004 12:11 pm

Dim cystadleuaeth am yr ardal?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint » Gwe 13 Chw 2004 12:16 pm

Ydi :"Ardal na wrthwynebwyd" yn gywir?

Mae o'n swnio braidd yn an-naturiol, am mae i rhoi ar allwedd ar fap ydi o, i ddangos ardal penodol.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 13 Chw 2004 12:20 pm

'Ardal nas gwrthwynebwyd' falle, ond sai'n siwr. Ble mae Lovgreen pan y'ch chi angen e? Glou, rhywun i fflachio symbol gitar yn yr awyr, a la Batman!

Mae e siwr o fod yn dal i chwerthin am poop scoops, myn yffach i! :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan brenin alltud » Gwe 13 Chw 2004 12:42 pm

Er mwyn i bwy bynnag fydd yn defnyddio'r map ddeall yr hyn ti'n weud, rhaid i'r sawl sy'n cyfieithu ddeall y cyd-destun!

Sut fap yw e? Ai rhywbeth i wneud a^'r hawliau mynediad newydd i gefn gwlad yw e? Ai cyfeirio at ardal lle mae tirfeddianwyr wedi ymateb/gwrthwynebu yn ei chylch mae e? Ai trafod neu herio neu gwrthwynebu mae'r 'contested' yn ei olygu?

Mae'r Saesneg yn aml yn cwtogi ar eirie i symleiddio gan wneud y peth yn fwy cymhleth yn aml!

Heb wybod be'n union yw'r allwedd, mae'n anodd gwybod. Ond falle bod

"Ardal nad yw'n rhan o'r gwrthwynebiadau / cwynion
neu
Ardal heb gael ei herio / sy' heb ddenu gwrthwynebiad"

yn olreit!

Lovgreen!!! :wps:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan brenin alltud » Gwe 13 Chw 2004 12:45 pm

Neu'n well (os da ni 'di deall yn iawn):


'Ardal nad yw'n destun gwrthwynebiad'
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 13 Chw 2004 12:48 pm

(i gerddoriaeth Batman, wrth reswm) Dynynynyny Lovgreen! Dynynynyny Lovgreen! Lovgreen! Lovgreen! Lovgreen!

Ardal nad yw'n destun anghydfod?

Feck knows!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint » Gwe 13 Chw 2004 12:55 pm

brenin alltud a ddywedodd:Sut fap yw e? Ai rhywbeth i wneud a^'r hawliau mynediad newydd i gefn gwlad yw e? Ai cyfeirio at ardal lle mae tirfeddianwyr wedi ymateb/gwrthwynebu yn ei chylch mae e? Ai trafod neu herio neu gwrthwynebu mae'r 'contested' yn ei olygu?



Blydi Hel! Spot on ,sut wy ti'n gwybod hyn?!! :ofn: ti'n gallu darllen meddyliau pobl dros y we?

Diolch am yr awgrymiadau.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai