PRIFYSGOL CYMRU, BANGOR
YSGOL SEICOLEG ac ADRAN IEITHYDDIAETH
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer chwe swydd Cynorthwy-ydd Ymchwil 7 mis rhan amser a Rheolwr Prosiect rhan-amser i weithio ar brosiect sydd yn olrhain“Pam nad yw plant rhai rhieni dwyieithog yn cael eu codi’n ddwyieithog, a beth y gellir ei wneud er mwyn newid hyn?” a gyllidwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda thîm o ymchwilwyr o’r Ysgol Seicoleg a’r Adran Ieithyddiaeth, o dan oruchwyliaeth Dr Virginia Mueller Gathercole.
Cynorthwywyr Ymchwil Rhan-Amser (6)
Cyflog: £18,265 (ar Raddfa R&A 1B) y.f. pro rata
Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn rhugl yn y Gymraeg. Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwy-ydd Ymchwil o Ogledd Cymru, dau o’r canolbarth, a dau o Dde Cymru. Bydd y cynorthwywyr yn gweithio fesul dau, fel bod dau yn gweithio yng Ngogledd Cymru, dau yn y canolbarth, a dau yn y De. Bydd gofyn i’r parau gasglu data gyda’i gilydd o dro i dro, ac yn unigol bryd arall. Bydd y cynorthwywyr yn gyfrifol am lwytho’r data a gesglir i mewn i fas-ddata’r cyfrifiadur, ac yn gyfrifol am gynorthwyo gyda dadansoddi’r data ac ysgrifennu am y canlyniadau. Bydd y cynorthwywyr o lefel myfyriwr prifysgol neu uwch. Mae’n hanfodol bod pob cynorthwy-ydd yn siaradwr brodorol ac yn hanu o’r ardaloedd hynny ble byddent yn casglu data.
Mae profiad o gyfweld oedolion, casglu data oedolion a phant, a chynnal astudiaethau arbrofol o fantais. Mae profiad o weithio gyda chyfrifiaduron o fantais, ond nid yn hanfodol. Bydd y swydd yn cychwyn Ebrill 1, 2004 hyd 31 Hydref, 2004..
Mae posib y bydd cyfle i gyfuno un o’r swyddi hyn gyda’r swydd Rheolwr Prosiect sydd wedi ei hysbysebu o dan yr un prosiect (gweler swydd cyf 04-3/120).
Dyfynnwch gyfeirnod 04-3/121 pan fyddwch yn gwneud cais.
Rheolwr Prosiect Rhan-AmserCyflog: £18,265 (ar Raddfa R&A 1A) y.f. pro rata
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn rhugl yn y Gymraeg. Bydd y Rheolwr Prosiect yn gyfrifol am rediad llyfn yr astudiaeth. Bydd o neu hi yn goruchwylio’r casglu data, a’r cysylltiadau gydag ysgolion a theuluoedd. Bydd o/hi hefyd yn gyfrifol am oruchwylio darpariaeth y ffurflenni ar gyfer cyfweliadau, arbrofion, a holiaduron; anfon a derbyn ffurflenni oddi wrth gyfranogwyr; trosglwyddo’r data i’r cyfrifiadur; dadansoddi data; ac ysgrifennu am y data. Bydd y Rheolwr Prosiect o lefel olradd neu uwch.
Mae profiad o gyfweld oedolion, casglu data oedolion a phant, a chynnal astudiaethau arbrofol o fantais. Mae profiad o weithio gyda chyfrifiaduron o fantais, ond nid yn hanfodol. Mae sgiliau trefnu yn ofynnol, a phrofiad gyda rheoli swyddfa o fantais. Bydd y swydd yn cychwyn Mawrth 1, 2004 (neu mor fuan a phosib wedi hynny).
Mae posib y bydd cyfle i gyfuno’r swydd gydag un o’r swyddi Cynorthwywyr Ymchwil Rhan-Amser sydd wedi eu hysbysebu o dan yr un prosiect (gweler swydd cyf 04-3/121).
Dyfynnwch gyfeirnod 04-3/120 pan fyddwch yn gwneud cais.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Mae ffurflenni cais a manylion pellach i’w cael trwy gysylltu ag Adnoddau Dynol, Prifysgol Cymru, Bangor, Gwynedd LL57 2DG; ffôn: (01248) 382926/388132; e-bost:
personnel@bangor.ac.ukDyfynner y cyfeirnod priodol wrth wneud cais.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y swydd Rheolwr Prosiect yw 23 Chwefror, 2004. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd Mawrth 2, 2004.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y swyddi Cynorthwy-ydd Ymchwil yw 8 Mawrth, 2004. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swyddi hyn Mawrth 23, 2004.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu â Dr Virginia Mueller Gathercole, ffôn: (01248) 382624, e-bost:
v.c.gathercole@bangor.ac.uk .neu Dr Enlli Thomas, ffôn: (01248) 388180, e-bost:
enlli.thomas@bangor.ac.ukWedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal