"Question Time" Aberystwyth

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 20 Chw 2004 12:58 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod hyn ychydig yn anheg efo'r BBC. Mae lleoliadau'r rhaglen yn cael eu hysbysebu wythnosau o flaen llaw, a mae gan unrhywun hawl i fod yn rhan o'r gynulleidfa. A fel arfer, mae nhw'n cysylltu gyda'r pleidiau gwleidyddol lleol, a grwpiau pwyso fel CYI, Cymuned etc., i estyn gwahoddiad iddyn nhw i fynychu'r recordiad. Efallai mai di-faterwch pobol Aber sydd ar fai yn fama, a nid y BBC?


Dyw hyn ddim yn wir.
Mi wnath y Blaid gysylltu a'r rhaglen yn 'cwyno' nad oedd gwahoddiad wedi dod mas i'r Blaid i ddanfon cynrychiolwyr (fel Pawb a'i Farn yn neud). Wedodd Alison Fuller (neu beth bynnag yw enw'r fenyw sy yng ngofal ymchwilio QT) fod dethol a dewis y gynulleidfa yn broses bron yn wyddonol a theg ac fod traws doriad eang o bob lliw, llun, cefndir gwleidyddol, ayb yn mynychu i gael cydraddoldeb. Bolycs. Pan o'n i'n gweithio yn yr Undeb Myfyrwyr flynyddodd yn ol mi nath hi gysylltu yn uniongyrchol a fi yn estyn gwahoddiad i fi a tua deg o fyfyrwyr i fynychu.


Ella bod petha wedi newid erbyn rwan, ond mi ydw i'n gwbod eu bod nhw wedi bod yn cysylltu efo grwpiau pwyso lleol yn y gorffenol. Ond mi ydw i'n teimlo bod pobol yn bod ychydig yn anheg. Mae lleoliadau'r rhaglenni'n cael eu hysbysebu 3 wythnos ymlaen llaw, ac mae gwahoddiad agored i unrhyw un fynychu. Mi ges i gyfle i fod yn y gynulleidfa y tro ola' oedd y rhaglen yng Nghaernarfon.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan garynysmon » Sad 21 Chw 2004 12:24 am

Wnesh i ddim gwylio'r rhaglen, gan fy mod yn Clwb Cymru ar y pryd :D
Ond o be rwyf wedi'i ddarllen ar wefan Question time, y mae'n amlwg fod bron ddim naws Gymraeg, neu hyd yn oed Gymreig, yn perthyn i'r rhaglen. A ydi'n bosib fod y BBC ofn cael 'replay' o be ddigwyddodd pan roedd y sioe yng Ngaernarfon, a'r holl stwr ynglyn a Cymuned?.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Sosij Fowr » Llun 23 Chw 2004 10:22 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl ei bod hi'n hollol anheg bod Laura Jones wedi goro trio cystadlu efo 3 asgellwr chwith o sylwedd, yn enwedig heavyweight fel Ann Clwyd. Pam fod y Toriaid Cymreig yn gadael iddi fynd ar y rhaglen pan fysa Felix Aubel, David Davies, Peter Rogers, Glyn Davies, neu Guto Bebb wedi medru gwneud cymaint gwell sioe ohoni?


trio cystadlu efo gwrthwynebwyr gwleidyddol ydi gwaith Laura Jones, mae hi wedi sefyll etholiad er mwyn cael y fraint o ddadlau ar faterion y dydd er gwell ei chyd-Gymry.

o ni'n barod i roid cyfla i'r hogan, er fy mod i wedi ffurfio rhagfarnau nid oherwydd y ffaith ei bod yn ferch lled-ddeniadol (yng nghyd-destun Edwina Fart a Sue 'Wurzel Gymij' Esecs) ond ar ol gwrando arni rhaid deud mai fflwff yn unig sydd rhwng ei chlustiau. ma'r cynghorydd bro gwaetha efo mwy o ddealltwriaeth na hon.

anffodus mai hon oedd yn cynrychioli'r Cynulliad ar y panel, ac eto, mae hi'n gynrychioladol o'r twll yna

sud ffec ma parot di-glem yn ffeindio'i hun yn y Cynulliad, ond ma boi da fatha Peter Rogers yn cael ei alltudio gan y Toriaid?

hen bryd i Adam Price ddod i'r Cynulliad i chwipio rhwyfaint ar dintysau diog PC
Boed Sosij Fowr
Neu Sosij Fach
Yr un yw'r owt-cum
Gwagio sach
Sosij Fowr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 320
Ymunwyd: Iau 08 Ion 2004 10:46 am
Lleoliad: fyny tintws Tina Tats

Postiogan Garnet Bowen » Llun 23 Chw 2004 10:27 am

Sosij Fowr a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl ei bod hi'n hollol anheg bod Laura Jones wedi goro trio cystadlu efo 3 asgellwr chwith o sylwedd, yn enwedig heavyweight fel Ann Clwyd. Pam fod y Toriaid Cymreig yn gadael iddi fynd ar y rhaglen pan fysa Felix Aubel, David Davies, Peter Rogers, Glyn Davies, neu Guto Bebb wedi medru gwneud cymaint gwell sioe ohoni?


trio cystadlu efo gwrthwynebwyr gwleidyddol ydi gwaith Laura Jones, mae hi wedi sefyll etholiad er mwyn cael y fraint o ddadlau ar faterion y dydd er gwell ei chyd-Gymry.


Digon gwir. Ond eto mae gan y Blaid Geidwadol rywfaint o reolaeth dros pwy mae nhw'n ei yrru i ymddangos ar y rhaglenni yma, a mi ddylsa eu bod nhw'n gallach na gyrru hogan ifanc di-brofiad fel Laura Jones i wynebu ffigwr mor brofiadol ac Ann Clwyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Ann v Laura

Postiogan Clarice » Llun 23 Chw 2004 11:29 am

Garnet Bowen a ddywedodd: mi ddylsa eu bod nhw'n gallach na gyrru hogan ifanc di-brofiad fel Laura Jones i wynebu ffigwr mor brofiadol ac Ann Clwyd.


O be o'n i'n gallu gweld odd y ddwy mor pathetic â'i gilydd..
"o ie cnydau GM, pwnc dadleuol iawn, yn anffodus does gyda fi ddim barn arno.."
Oes gan Ann Clwyd farn ar unrhywbeth heblaw Irac erbyn hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sbesh » Iau 26 Chw 2004 5:00 pm

jyst moyn gweud nes i lwyddo i gael tocynnau i'r rhaglen( gweitha'r modd) a cefais fy 'grillo' gan yr Alison Fuller hollol hiliol amharchus am baham roeddwn i'n awyddus i fynd ar y sioe. Mewn gwirionedd, ces i ddadl masif efo hi dros y ffon oherwydd unwaith i mi gynnig pwysigrwydd trafod gwleidyddiaeth Cymru wedodd hi 'Now, if we were in Stoke on Trent, we wouldn't discuss local issues now, would we? We only want National and International issues that will attract the relevant audience!!!!' felly pwff i Gymru yw agwedd Question Time.hollol hurt.
ar y noson ei hun, rhoddon nhw darn o bapur efo pynciau'r dydd arno- pynciau heb un agwedd cymreig, ac er oedd cyfle i ni sgwennu cwestiwn am bwnc heblaw y rheiny ar y daflen, ni chafodd un cwestiwn newydd ei godi ar y rhaglen.
odd gen i fy llaw fyny i siarad drwy'r adeg gydar llaw, a gofyn yr un hen bobl boring wnaethon nhw :D
laura jones, laughing stock. ann clwyd- tax people when their dead!!!!beth?
adam price- gwych pan oedd e actiwli yn cael cyfle i siarad. simon weston- clueless, a darcus how- off ei ben yn llwyr!!
'Don't be in a hurry to condemn because he doesn't do what you do or think as you think or as fast. There was a time when you didn't know what you know today.'
Malcolm X
sbesh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 9:39 am
Lleoliad: Tir Na Nog

Postiogan dave drych » Gwe 27 Chw 2004 5:39 pm

c'mon. mae laura jones yn ffit. os fyse hi'n rhedeg ei hymgyrch etholiadol yn gwisgo bicini fyswn i'n pleidleisio drosti. o na, mae'n Tory. be di'r pwynt o QT ymweld a wahanol ardaloedd o prydain os nad oes unryw materion lleol yn cael eu trafod. a na fyddi'n rhatach i gynnal debate am faterion prydeinig a rhyngwladol yn llundain? blydi new labour!!
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai