yn gyntaf, pwy sydd wedi darllen trillogy Alexander Cordell?
Dyma ydyn nhw:
1. Rape of the fair Country
2. Hosts of Rebecca
3. Song of the earth
nes i ddarllen nhw pan oni'n rhyw 12/13, ond dy'n nhw ddim ar gyfer yr ystod oedran yna o gwbwl. Dyma ydi llyfrau gora mam medda hi, ond dwim yn meddwl de. Unwaith dwi di darllen nhw, ond ma nhw mor dda. ma'r portread o deulu a'r hanes ei hyn yn ardderchog. mae nhw jest o mor wych! onin chwerthin ac yn crio wrth eu darllen nhw, does yna ddim llawer o lyfrau yn gallu gwneud huna i fi.
cwestwin wedyn de, pwy sydd wedi darllen chwalfa? oni wrth fy modd efo fo, ond i fod o mbach yn dipresing..
oes 'na lyfra tebyg sydd yr un mor dda tybed?