ond do's da nhw ddim hawl i ddwyn enw'r boi nath rapio ar 'ebeneezer goode'...
dan jerrrus a ddywedodd:Ta da chi'n awgrymu rhoi'r rhaglen yn hen slot Just Up Your Street?
Ydw, rili. Mae 'na, faint, tair neu bedair sianel y gellid ei defnyddio ar gyfer rhaglenni fel hyn fydde'n annog pobol i deimlo'n OK i drafod yr iaith a'i dysgu. Mae plant Cymru'n gorfod ei dysgu'n yr ysgol, ond dyw sianeli eu rhieni fel BBC Wales neu BBC 2W ddim yn mentro son am yr iaith, a'r anawsterau a'r rhwystredigaethau mae eu rhieni'n eu cael a'u hamynedd wrth ddysgu gyda'u plant ayb, ac mi fasa'n neud lot mwy o les. Os taw gwlad ddwyieithog y'n ni, pam taw S4C sy'n gorfod bod yn 'ddwyieithog' drwy'r amser?
Faswn i ddim yn meindio rhaglen ar S4C fyddai'n ymwneud â'r iaith o safbwynt ei siaradwyr; hynny yw, annog y Cymry i siarad rhagor o Gymraeg â dysgwyr, sut mae pobol yn ymddwyn pan fo dysgwyr neu rai di-Gymraeg yn eu plith, y gwaith da mae pobol yn ei wneud yn wirfoddol a phroffesiynol ledled Cymru (gwahaniaethu'n fawr o un lle i'r llall) gyda dysgwyr yn eu hardaloedd neu drefi, sgwrsio â Mentrau Iaith ayyb.
Ond dw i'n amau a yw gwylio pobol yn cael gwersi, gyda throslais Saesneg o'r blaen, yn deledu da i Sianel Gymraeg ei hiaith.
Does dim dowt bod Nia Parry'n gwneud job wych, ac mi fasa hi'n dda iawn ar BBC Wales hefyd, ac yn biti mawr ei cholli o S4C. Ond mae hwn fel petai'n ymdrech i boblogeiddio (a Sesnigeiddio falle) S4C, yn hytrach na rhoi chyrraedd y bobol sy' angen eu cyrraedd, a gwneud y Gymraeg yn beth normal, bob dydd.
Gofyn y cwestiwn o'n i, nid rhoi 'cyfarwyddiadau', gyda llaw. Sori, gaea i 'mhen i nawr.