Dielw a ddywedodd:Be dwi di bod yn deud chwadan yn gynharach ydi bod angen pres i gael rhyddid, o leia yn ein cymdeithas ni - felly nid yw'n bosib bod yn hapus heb bres.
Ac 'yn ein cymdeithas ni' ydi'r frawddeg allweddol yn fana. Heddiw, rwan.
Mae technoleg yn mynd mor dda fel fod rhaid creu swyddi dibwrpas i gadw'r economi i fynd. Llawer o swyddi dibwrpas sy'n gwneud llwyth o bobl yn anhapus, gan eu bod yn treulio llawer o'u hamser yn y gwaith.
Pan mae ffatri oedd yn cyflogi 500 yn medru gwella eu cynhyrchu a'u gydag un peiriant ac un person dyma sy'n digwydd. Bydd technoleg yn datblygu mor dda lle na bydd swyddi ar ol. Bydd technoleg hefyd yn medru datblygu mor dda yn y dyfodol lle nad oes angen i dalu am unrhyw wasanaeth, fydd yn handi gan na fydd unrhyw swyddi ar gael i dalu amdano.
Wrth gwrs, nid oes ennill cymdeithasol (ariannol)ar gael yn y sefyllfa yma felly mae pobl megis y cwmniau mawr meddygol a chemegol yn patentio popeth er mawr loes i wledydd y trydydd byd. Nid yw rhannu buddianau technoleg yn gwneud synnwyr cyfalafol.
Felly y gorau mae technoleg yn mynd, y mwyaf buan ddylai diweddglo fod ar gyfalafiaeth.