Welodd rywyn Dechrau Canu Dechrau Canmol?!
Wanwl! Son am edrych fel tylluan GO IAWN! O wel, reit emosiynnol - Sar yn canu'n wych. Odd o fwy fel rhagarweiniad i'r 8nos Cwmni sydd i ddod!
Mae seren wib yn yr awyr
yn saethu dros foroedd o win
Ond mae'r don ar drai ac mae'r eilun rai
Ar goll yn eu breuddwyd eu hun.
Y rhaglen yn dda iawn! 'Naeth Sara ganu'n arbennig o dda. Iyffach, ma' llais ffantastig ganddi! Methu aros i nos Fawrth nawr! Diolch byth fod gennym awr yn llai i aros! lol!
Ro'n i'n synnu na ddangoson nhw ni'n cynnig llwnc destun i Ann Griffiths noson y premier, cofiwch. Ro'n i wedi disgwyl i saethiad o hwnna fod yn y rhaglen. Buasai fe wedi bod yn saethiad addas iawn ar ddiwedd y rhaglen yn fy marn i. (Siawns am swydd, Elidir? Gan fy mod i'n cynnig syniadau mor dda, de! )
Waw! Roedd rhaglen nos Fawrth yn Ann-hygoel!!!!
'Di tapio fe, yn naturiol. Mae e'n rywbeth mor braf i'w gael. Gallaf edrych 'nol arno mewn blynydde, a chofio'r cyfnod hapus iawn a dreuliais gyda Chwmni Theatr Maldwyn.
God, ma'r cwmni 'ma'n FFANTASTIC!!!!!
rhaglen nos fawrth yn hollol hollol wych. pawb dw in nabod wedi mwynhau - aelodau cwmni i gyd yn eu dagrau! -Jaco yn *!
Be odd pawb arall yn feddwl?! Nos sadwrn am dani rwan de! Mi giciw ni dinnau!
Mae seren wib yn yr awyr
yn saethu dros foroedd o win
Ond mae'r don ar drai ac mae'r eilun rai
Ar goll yn eu breuddwyd eu hun.
Lot o bobol yn yr ardal hyn 'di dod lan ata i i'n llongyfarch. Dweud fod y rhaglen yn wych, ac yn disgwyl ymlaen yn fawr at y sioe nos yfory.
'Di hyd yn oed cael "fan mail" ddoe! lol! Hen ffrind ysgol i mi'n gofyn pryd all hi ddod draw i gael fy llofnod!
Wel, mynd i gael fy nishgled nawr. Hwyl am y tro! Mwynhewch nos yfory!
O, waw! Roedd hwnna'n wych! Ro'n i yn fy nagrau erbyn y diwedd! Ma' gweld hwnna 'di codi hiraeth ofnadw arna i. 'Wi bron marw ishe perffornio'r sioe eto! 'Wi'n colli pawb yn ofnadw!