Fe ddaru met i fi gychwyn ffeit ar Lembit Opik yn Maes B Eisteddfod Meifod. Mi wnesh i ei ddarbwyllo fo, a chychwyn sgwrs feddw iawn (wn i'n hongian ar y pryd!) ynglyn a'r ffaith fy mod o blaid Cymru rydd a.y.y.b. Dwi'm yn meddwl oedd o'n dallt be wn i'n ei ddweud!
Dwi wedi cyfarfod Ieuan Wyn Jones sawl gwaith (fe oeddwn ar fform yn ysgol o flwyddyn 7-11 felly oeddan ni yn ei gyfarfod bob tro roedd yn dod i'r ysgol). Fe ddaru mi siarad yn sydyn efo sawl A.C (plaid i gyd gyda llaw) pan roeddwn yn ran o'r brotest campio tu allan i'r cynulliad mis dwytha.
Mae gen i hefyd 'ffrind' i Nain a oedd yn arfer bod yn ymgeisyddes dros y Toriaid yng Ngaernarfon
. Dwi di gorfod brathu fy nhafod ar sawl achlysur.