Tra o'n i'n coleg, fues i'n gweld boi o Ogledd Iwerddon am sbel fowr 'Nes i'ngorau i ddysgu peth o'r iaith iddo, a go aml wele chi fi'n traipso rownd yn llefaru fy ngwlad lawr y ffon tra'n feddw, gan obeithio fod e'n rhannu fy angerdd - ond 'nath e 'ried. Mond nos da alle fe weud ar ol 3 blynedd. O'dd yr iaith byth yn issue yn y berthynas na'r split, ond rhaid cyfadde o'dd e'n neud fi'n drist i feddwl fod dim diddordeb da'ge yn yr elfen hynod o bwysig 'ma o'm mywyd. Shame 'de
Newydd sylweddoli cymaint ma'r uchod yn swnio fel stori our tune, ymddiheuriadau