Mae mwy o bobl yn gadael Prydain nag sydd yn dod i fyw i Brydain - Ffaith
Nac ydi dydi o ddim yn ffaith - anwiredd ydi hyn. Nes i ddarllen ddoe (yn y Times dwi'n meddwl) bod tua 300000 yn dod mewn a 100000 yn mynd allan bob blwyddyn.
Mae canran poblogaeth mewnfudwyr/ymgeiswyr lloches/ffoaduriaid Prydain yn llai na 5% cyfanswm poblogaeth Prydain.
Mae hyn yn ffwc o lot o bobl! Gei di ddisgrifio fo fel 0.00000001% o boblogaeth y byd os ti isio ond mae o dal yn ormod.
Nid mewnfudwyr sy'n creu trefysgaeth yma
Rwan ti'n bod yn hollol naive. Deffra wir!
y ffordd mae'r wladwriaeth ac elfennau o gymdeithas yn gwthio pobl 'gwahanol' i'r ymylon gan eu gwneud yn fwy agored at temptasiwn eithafiaeth crefyddol ac ati.
wrth gwrs bai cymdeithas ydi o nid yr cyfrifoldeb y terfysgwr....
Mae cael pobl o wahanol dras hil, crefydd ac ati yn cyfoethogi gwlad. Yn gallu gwneud i chi fwynhau eich diwylliant chi, tra'n derbyn cyfoeth diwylliannau eraill hefyd
I ryw raddau dwi'n cytuno tan y pwynt lle mae'r diwylliant cynhenid yn y lleiafrif. Mae o di digwydd yng Nghymru yn barod oherwydd mewnlifiad y Saeson. Rwan mae o'n digwydd yn Lloegr (sy'n golygu mwy o Saeson yn ffoi i Gymru), a nid yw mor brydferth a ti'n meddwl. Mae'r BNP yn ennill seddi yn y lleoedd hyn am reswm. Wrth gwrs mae nhw yn tyfu ofn a mae nhw efo agenda eu hunain (casineb). Ond nhw ydi'r unig pobl (ar wahan i'r Toriaid efallai
) sy'n cynrychioli'r ofnau "genuine". Creu trwbwl byddi di'n neud gyda polisi sy'n galluogi mwy o fewnfudo.
Cytuno hefyd gyda'r syniad o gael system fel yr UDA. Pa mor fawr di'r wlad yna a faint o fewnfudwyr ma nhw'n derbyn tybed?