Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Yr hyn sy'n fwy trist ydi ymateb "rhesymol" GDG a Sioni Size. Wancars.
Beth? Beth sy'n 'afresymol' am fy ymateb i? Dweud ydw i fy mod i'n falch bod Iraciaid cyffredin yn dangos nag y'n nhw'n fodlon plygu drosodd i America a gweud 'Dyma ni, cymerwch ein rhyddid a chroeso'. Fe wned i anghytuno a chlodfori marwolaethau Americanwyr, gan fy mod i yn erbyn rhyfel yn gyffredinol, ac felly'n credu na ddylen nhw fod yno yn y lle cynta' i gael eu lladd. Piss of home, America, s'neb moyn chi 'na.
A phaid a'm galw yn 'wancar' os gweli di'n dda. Os wyt ti am ddechre bod yn bersonol, gallwn ni ddilyn y trywydd hwnnw a chroeso, ond gwell fyddai gen i gadw at y mater dan sylw.
"Rhesymol" ddeudis i. Tydi di safbwynt di ("falch bod yr Iraciaid yn brwydro nol") yn ddim gwahanol i Arabiata, mae o jysd yn trio swnio fel ei fod o. Canlyniad yr Iraciaid yma yn "brwydro nol" ydi tramorwyr yn cael eu lladd.