Ramirez a ddywedodd:
Mae hynna'n ymylu ar fod y peth mwya ffycin stiwpid dwi erioed wedi ei ddarllen. Ar Faes-E neu unrhywle.
Ti'n rhy garedig.
Ramirez a ddywedodd:Os mai canlyniad yr Iraciaid yn brwydro nol ydi tramorwyr yn cael eu lladd, tyff shit, os dy nhw ddim isho hyn mae America yn drio neud, yna mae nhw'n MYND i frwydro nol-
Dadl dros yr hawl i ddefnyddio trais fel arf gwleidyddol ydi hon, a fedrai ddim cytuno efo chdi. Mae gan bobl yr hawl i ddefnyddio tor-cyfraith i fynegi eu hunain yn wleidyddol pan nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd arall o fynegi eu hunain. Ond nid dyna sy'n digwydd yn Irac heddiw. Nid "protest" dreisgar ydi hon. Mae'r Americanwyr yn barod wedi datgan eu bod nhw'n trosglwyddo grym yn ol i'r Iraciaid ymhen llai na deufis. Mae nhw yn barod wedi penodi dyddiad ar gyfer cynnal etholiadau. Mae gan Iraciaid yr hawl i fynegi eu barn yn wleidyddol, heb orfod defnyddio trais. Toes gan y "gwrthryfel" yma ddim math o
legitmacy. Mae'r rhai sy'n gyfrifol am y trais yn perthyn i leiafrifoedd bychain sy'n sylweddoli y byddai trefn ddemocrataidd yn eu gadael nhw mewn safle gwan, a felly mae nhw'n ceisio tanseilio sefydlu'r drefn hono, er mwyn dal gafael ar eu grym presenol.
Tasa gan y bobl yma ddim modd arall o fynegi eu hunain, mi fyswn i'n medru deallt pam eu bod nhw'n troi at drais. Ond fel mae petha yn sefyll, fedri di ddim cyfiawnhau'r trais ddim mwy nac y byswn i'n medru cyfiawnhau ymgyrch fomio yng Nghymru am fy mod i'n rhy ddi-amynedd i ddisgwyl tan etholiad cyffredinol 2005.
Ramirez a ddywedodd: Dydi deud "Da iawn am ladd yr Americanwyr" a dweud "Da iawn am sefyll i fyny a brwydro 'nol" ddim yr un peth o gwbwl.
Wrth gwrs ei fod o. Nid Nelson Mandela yn malu peilons, neu Feibion Glyndwr yn llosgi tai haf gwag ydi'r bobl yma. Mae nhw'n mynd ati yn fwriadol i geisio lladd tramorwyr, boed y rheini'n filwyr neu beidio.