Rhodri Nwdls a ddywedodd:Mae hyn yn biti, ond gwir creulon ydi nad oedd hi'n ariannol bosib i barhau. Mae hi'n ddelfryd neis cael tri disgybl yn y dosbarth hanes a chael bron iawn one-on-one, ond dydi hi ddim yn bosib.
Ond, fel mae athrawon rwy' wedi siarad a nhw yn tystio, mae'r system A2/A newydd wedi newid pethau i raddau helaeth, gan fod nifer yn fwy o fyfyrwyr ganddyn nhw bellach yn astudio'r gwahanol bynciau ar unrhyw adeg, ac felly maent yn cael mwy o arian 'bums on seats'. Er enghraifft, siaradais i gyda'r athro drama o fy hen ysgol (oedd yn digwydd bod cwpwl o flynyddoedd na fi yn rysgol on wedi dychwelyd ). Pan o'n i'n neud lefel A, fi oedd yr unig ddisgybl drama yn fy mlwyddyn, ond bellach mae tua chwech neu saith disgybl yn 6:2 a thua phymtheg disgybl yn 6:1.